xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
34.—(1) Mae swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 33(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i’r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.
(2) Cyfrifir swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 33(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
(X - £303) + Y lle mae—
X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu hysgwyddo ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 33.
Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant a ysgwyddwyd ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
(a)gwariant y mae’r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei ysgwyddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae’n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);
(b)cost fisa neu fisâu y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad; ac
(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys eu hysgwyddo er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad.