- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
37.—(1) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;
(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;
(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; a
(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.
(2) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.
(3) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.
(4) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2) pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
(5) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: