46.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £4,162;
yng nghategori 2, yn £7,532;
yng nghategori 3, yn £6,410;
yng nghategori 4, yn £6,410;
yng nghategori 5, yn £5,376;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £3,767;
yng nghategori 2, yn £6,858;
yng nghategori 3, yn £5,575;
yng nghategori 4, yn £5,575;
yng nghategori 5, yn £4,980;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—
(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw’n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy;
(b)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth sy’n fwy na £1,329 , £1,329; ac
(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.