- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
7 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 20 15
Yn dod i rym
1 Ebrill 20 15
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, 130, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2015 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
2.—(1) Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:
(1) Swm Blaenorol | (2) Swm Newydd |
---|---|
£38.30 | £38.70 |
£58.10 | £58.70 |
£85.10 | £86.00 |
£192.20 | £194.10 |
£66.10 | £66.80 |
£84.00 | £84.80 |
£109.00 | £110.10 |
£211.30 | £213.40 |
£196.80 | £198.80 |
£55.80 | £56.40 |
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.40” rhodder “£12.50”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£15.00” rhodder “£15.20”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.20” rhodder “£4.30”;
(d)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.70” rhodder “£4.80”;
(e)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£63.00”, “£55.80” a “£30.20” rhodder “£63.60”, “£56.40” a “£30.50” yn eu trefn;
(f)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£63.00” rhodder “£63.60”;
(g)ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.40” rhodder “£14.50”; a
(h)ym mharagraff 2(b), yn lle “£36.60” rhodder “£37.00”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
3. Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2015
Rheoliad 2(4)
Regulation 19(2) and (3)
(1) Nature of Repair | (2) Letter of Codes - Values | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A | B | C | D | E | F | G | H | I | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Repair or replacement of one lens | 12.05 | 22.05 | 35.70 | 89.75 | 26.10 | 35.10 | 47.75 | 99.40 | 92.10 |
Repair or replacement of two lenses | 24.10 | 44.10 | 71.40 | 179.50 | 52.20 | 70.20 | 95.50 | 198.80 | 184.20 |
Repair or replacement of: the front of a frame | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 | 12.35 |
a side of a frame | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 | 7.30 |
the whole frame | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60 | 14.60” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr aethpwyd iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 a’r Atodlen yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o gyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac amnewid teclynnau optegol.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd cyn 31 Mawrth 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: