Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr aethpwyd iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 a’r Atodlen yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o gyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac amnewid teclynnau optegol.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd cyn 31 Mawrth 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.