NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/558 (Cy. 80)) ac yn pennu, o ran Cymru, set newydd o ddangosyddion perfformiad statudol y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn. Bydd y Gorchymyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.