RHAN 11Prisiadau actiwaraidd
Penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd
159.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi unigolyn i ddarparu gwasanaeth ymgynghori ar faterion actiwaraidd mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig.
(2) Actiwari’r cynllun sy’n gyfrifol am—
(a)cyflawni prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a
(b)paratoi adroddiadau ar y prisiadau.
(3) Cyn penodi unigolyn yn actiwari’r cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain bod gan yr unigolyn gymwysterau priodol i gwblhau prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf 2013 (“cyfarwyddiadau’r Trysorlys”).
(4) Rhaid i reolwr cynllun ddarparu i actiwari’r cynllun unrhyw ddata sy’n ofynnol gan actiwari’r cynllun er mwyn cyflawni prisiad a pharatoi adroddiad ar y prisiad hwnnw.
(5) Rhaid cyflawni prisiad o’r cynllun ac unrhyw gynllun cysylltiedig a pharatoi adroddiad ar y prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys.
(6) Rhaid cyflawni prisiadau o’r cynllun o fewn ffrâm amser sy’n galluogi bodloni’r gofynion yng nghyfarwyddiadau’r Trysorlys mewn perthynas â dyddiadau sy’n gymwys i’r prisio.
Cap ar gostau cyflogwyr
160.—(1) Y cap ar gostau cyflogwyr ar gyfer y cynllun hwn yw 17.1% o enillion pensiynadwy aelodau o’r cynllun hwn.
(2) Os bydd cost y cynllun hwn, a gyfrifir yn dilyn prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys, yn uwch neu’n is na’r cap ar gostau cyflogwyr, o fwy na’r gorsymiau a bennir mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 12(5) o Ddeddf 2013(1) (“y Rheoliadau Cap Costau”), rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn y weithdrefn a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer cyrraedd cytundeb gyda rheolwyr cynllun, cyflogwyr ac aelodau (neu gynrychiolwyr cyflogwyr ac aelodau) ynglŷn â’r camau sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd y targed cost a bennir yn y Rheoliadau Cap Costau.
(3) Y weithdrefn a bennir at ddibenion adran 12(6)(a) o Ddeddf 2013 yw ymgynghori gyda Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru am unrhyw gyfnod a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru gyda golwg ar gyrraedd cytundeb a gymeradwyir gan holl aelodau’r Bwrdd hwnnw.
(4) Yn dilyn ymgynghoriad o’r fath, os na chyrhaeddir cytundeb o fewn 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i addasu’r gyfradd y mae buddion yn crynhoi yn unol â hi o dan reoliad 43 (swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun) er mwyn cyrraedd y targed cost ar gyfer y cynllun hwn.
Gweler rheoliad 3 o O.S. 2014/575.