RHAN 13Atodol
PENNOD 2Fforffedu
Fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys181
1
Os caiff aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys ei gollfarnu am drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol, gadw’n ôl bensiynau sy’n daladwy o dan y cynllun hwn i—
a
yr aelod;
b
unrhyw berson mewn cysylltiad â’r aelod;
c
partner sy’n goroesi; neu
d
plentyn cymwys.
2
Os yw pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys o dan Ran 6 (buddion marwolaeth) i gael ei gadw’n ôl o dan baragraff (1), o ganlyniad i drosedd berthnasol sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw ym mharagraff (5), rhaid i’r drosedd fod wedi ei chyflawni ar ôl y farwolaeth a oedd yn peri bod y person yn cael yr hawl i bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys, yn ôl fel y digwydd.
3
Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn person sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael o dan—
a
adran 14 o DCauP 1993 (lleiafswm gwarantedig enillydd); neu
b
adran 17 (lleiafswm pensiynau ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw)80 o’r Ddeddf honno.
4
Caiff y rheolwr cynllun, ar unrhyw adeg ac i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol—
a
defnyddio er budd unrhyw ddibynnydd yr aelod; neu
b
adfer i’r aelod,
gymaint o unrhyw bensiwn ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.
5
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
- a
trosedd o frad,
- b
trosedd o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 198981 y dedfrydwyd yr aelod amdani ar yr un achlysur—
- i
i gyfnod o garchar am o leiaf 10 mlynedd, neu
- ii
i ddau neu ragor o gyfnodau olynol o garchar sydd â’u hyd cyfanredol yn 10 mlynedd o leiaf, neu
- i
- c
trosedd—
- i
a gyflawnwyd mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun yr aelod; a
- ii
y dyroddwyd tystysgrif fforffedu mewn cysylltiad â hi gan Weinidogion Cymru;
- i
ystyr “tystysgrif fforffedu” (“forfeiture certificate”) yw tystysgrif sy’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod y drosedd—
- a
wedi peri niwed difrifol i fuddiannau’r Wladwriaeth, neu
- b
yn debygol o arwain at golled hyder ddifrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.
- a
Fforffedu pensiynau: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill182
1
Os collfernir person (“P”) o lofruddiaeth aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a fyddai, fel arall, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
2
Os collfernir P o drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i P mewn cysylltiad ag aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
3
Os yw paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai farw P cyn yr aelod.
4
O dan baragraff (2), ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 17 o DCauP 199382.
5
Os collfernir P o lofruddiaeth aelod a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a gadwyd yn ôl yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod, a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn.
6
Os collfernir P o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod.
7
Ni chaiff dim sydd ym mharagraffau (5) neu (6) effeithio ar gymhwyso paragraffau (1) neu (2) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o lofruddiaeth yr aelod, neu o drosedd berthnasol.
8
Yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
a
dynladdiad yr aelod; neu
b
unrhyw drosedd arall, ac eithrio llofruddiaeth, y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.
Fforffedu cyfandaliad budd marwolaeth: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill183
1
Os collfernir person o drosedd berthnasol, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy i’r person hwnnw mewn cysylltiad ag aelod o dan Bennod 4 o Ran 6 (buddion marwolaeth).
2
yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
a
llofruddiaeth yr aelod;
b
dynladdiad yr aelod; neu
c
unrhyw drosedd arall y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.
3
Os yw paragraff (1) yn gymwys a’r rheolwr cynllun yn cadw’n ôl yr holl fuddion, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai’r person hwnnw farw cyn yr aelod.
4
Os collfernir person o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, adfer i’r person hwnnw gymaint o unrhyw fudd ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.
5
Ni chaiff dim sydd ym mharagraff (4) effeithio ar gymhwyso paragraff (1) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o drosedd berthnasol.
Fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol184
1
Os oes gan aelod (P) rwymedigaeth ariannol berthnasol neu os yw wedi achosi colled ariannol berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl buddion sy’n daladwy i P o dan y cynllun hwn.
2
Caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl fuddion i’r graddau yr ystyria’r rheolwr cynllun yn briodol, ond ni chaiff gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
3
Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r lleiaf o’r canlynol—
a
swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; a
b
gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
4
Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw buddion yn ôl ac eithrio—
a
os oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; neu
b
os yw’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
i
o dan orchymyn gan lys cymwys, neu
ii
o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
5
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “colled ariannol berthnasol” (“relevant monetary loss”) yw colled ariannol—
- a
a achoswyd i’r cynllun hwn, a
- b
a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P; ac
ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol—
- a
a achoswyd i gyflogwr P,
- b
a achoswyd wedi i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn,
- c
a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P, a
- d
a oedd yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi.
- a
Gwrthgyfrif185
1
Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).
3
Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
a
wedi ei hachosi i gyflogwr P;
b
wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;
c
yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a
d
yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
4
Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
a
wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
b
yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
5
Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
a
wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
b
yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.
6
Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).
7
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 199583, ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno84.
8
Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
9
Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
a
swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a
b
gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
10
Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—
a
pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu
b
pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
i
o dan orchymyn llys cymwys, neu
ii
o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
Fforffedu a gwrthgyfrif: gweithdrefn186
1
Os yw’r rheolwr cynllun yn bwriadu cadw buddion yn ôl neu weithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth person i gael buddion, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r person o’i fwriad mewn ysgrifen.
2
Os yw’r rheolwr cynllun yn cadw buddion yn ôl o dan reoliad 184 (fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol) neu’n gweithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth i gael buddion o dan reoliad 185 (gwrthgyfrif), rhaid i’r rheolwr cynllun roi i’r aelod dystysgrif sy’n dangos—
a
y swm a gedwir yn ôl neu a wrthgyfrifir; a
b
effaith y cadw’n ôl neu’r gwrthgyfrif ar fuddion yr aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys o dan y cynllun hwn.