xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Buddion marwolaeth

PENNOD 3Pensiynau ar gyfer plant cymwys

Pensiwn plentyn cymwys

93.—(1Os bydd farw aelod, sydd â thri mis o leiaf o wasanaeth cymwys, gan adael plentyn cymwys, mae pensiwn plentyn cymwys yn daladwy, a phensiwn profedigaeth, wrth ddibynnu ar amgylchiadau’r aelod ymadawedig, yn daladwy, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(2Nid oes pensiwn plentyn cymwys yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn genedigaeth plentyn.

(3Os yw’r plentyn, ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod, yn peidio â bod yn blentyn cymwys bydd y pensiwn yn peidio â bod yn daladwy oni bai a hyd nes bo’r plentyn yn dod yn blentyn cymwys drachefn; ond os na fydd y plentyn yn peidio â bod yn blentyn cymwys, bydd y pensiwn yn daladwy am ei oes.

Ystyr “plentyn cymwys”

94.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas ag aelod ymadawedig, ystyr “plentyn” (“child”) yw—

(a)plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig yr aelod; neu

(b)plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig priod yr aelod, neu blentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig i bartner sifil yr aelod neu i bartner a oedd yn cyd-fyw â’r aelod; neu

(c)unrhyw blentyn naturiol yr aelod, a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod, ac yr oedd mam y plentyn yn feichiog â’r plentyn hwnnw ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

(2Mae plentyn yr aelod ymadawedig yn “blentyn cymwys” (“eligible child”)—

(a)os oedd y plentyn, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig, yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ymadawedig hwnnw;

(b)os nad oedd y plentyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil; ac

(c)os yw’r plentyn yn bodloni unrhyw un o’r amodau A i C.

(3Amod A yw fod y person o dan 18 mlwydd oed.

(4Amod B yw fod y person mewn addysg amser llawn neu ar gwrs sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn, ac nad yw’r person wedi cyrraedd 23 mlwydd oed.

(5Amod C yw fod y person, oherwydd ei anallu meddyliol neu gorfforol parhaol, yn ddibynnol ar yr aelod ymadawedig ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig.

Pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif

95.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif a chanddo fwy na thri mis o wasanaeth cymwys.

(2Cyfradd flynyddol pensiwn plentyn cymwys y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o’r pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w chael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar y dyddiad y bu farw’r aelod.

Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig

96.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.

(2Y gyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yn y cyfrif aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.

Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

97.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr (P).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.

(3Os gwnaed gostyngiad talu’n gynnar ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Cyfran benodedig

98.—(1Y gyfran benodedig yw un chwarter os oes un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

(2Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, y gyfran benodedig yw hanner y pensiwn a grybwyllir yn rheoliadau 95 (pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif), 96 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig) a 97 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr) wedi ei rannu â nifer y plant cymwys fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(3Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau pensiwn y person hwnnw beidio, ac os oes dal mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i swm y pensiwn hwnnw gael ei ddosrannu’n gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).

Cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi

99.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad oedd gan unrhyw berson, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, hawl i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, ac os oes plentyn cymwys, mae hawl gan y plentyn hwnnw hefyd i gael y swm o bensiwn yn unol â pharagraffau (3) neu (4) y byddai partner sy’n goroesi wedi ei gael—

(a)o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) os oedd yr aelod (P) yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth;

(b)o dan reoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) os oedd P yn aelod gohiriedig ar ddyddiad ei farwolaeth;

(c)o dan reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr) os oedd P yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth.

(3Os nad oes dim ond un plentyn cymwys, bydd y plentyn hwnnw’n cael swm ychwanegol sy’n hafal i’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2).

(4Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth P, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) rhwng nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(5Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).

Cynnydd ym mhensiwn plentyn cymwys os oedd yr aelod yn aelod â debyd pensiwn

100.  Os oedd buddion yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn ddarostyngedig i ostyngiad o dan adran 31 o DDLlPh 1999, rhaid cyfrifo unrhyw bensiwn plentyn cymwys fel pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys

101.—(1Os nad oes pensiwn partner sy’n goroesi yn daladwy ar farwolaeth yr aelod, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i blentyn cymwys sydd â hawl i gael pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif neu aelod-bensiynwr.

(2Os bydd farw’r partner sy’n goroesi cyn diwedd y cyfnod dechreuol, a phensiwn profedigaeth yn daladwy i’r partner sy’n goroesi, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i unrhyw blentyn cymwys am y rhan o’r cyfnod dechreuol sy’n weddill, neu, os yw’n gynharach, hyd nes bo’r plentyn yn peidio â bod yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys.

(3Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.

(4Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.

(5Os oes mwy nag un plentyn cymwys, rhennir swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) gyda nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(6Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys cyn diwedd y cyfnod dechreuol, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r pensiwn profedigaeth beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).