xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
119.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau), rhaid i aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun, mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun, ar y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol a gaiff yr aelod hwnnw yn y cyfnod tâl sy’n cynnwys 1 Ebrill ar gyfer y gyflogaeth honno (neu, yn achos aelod actif y mae ei aelodaeth yn cychwyn ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol y mae’r aelod yn ei gael ar ddechrau’r aelodaeth honno).
(2) Mae’r gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i gyflogaeth gynllun fel y’i pennir yn y tabl canlynol, gyda’r gyfradd gyfraniadau a bennir yn y golofn briodol ar gyfer y flwyddyn i’w hystyried yn gymwysadwy i’r ystod tâl pensiynadwy a bennir yn y golofn gyntaf, y mae tâl pensiynadwy blynyddol yr aelod actif, wedi ei dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf gyfan, yn perthyn iddo:
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2015-31 Mawrth 2016 |
---|---|
Hyd at £27,000 | 10.0% |
£27,001 i £50,000 | 12.2% |
£50,001 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017 |
---|---|
Hyd at £27,270 | 10.0% |
£27,271 i £50,500 | 12.5% |
£50,501 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018 |
---|---|
Hyd at £27,543 | 10.5% |
£27,544 i £51,005 | 12.7% |
£51,006 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau o 1 Ebrill 2018 ymlaen |
---|---|
Hyd at £27,818 | 11.0% |
£27,819 i £51,515 | 12.9% |
£51,516 i £142,500 | 13.5% |
£142,501 neu fwy | 14.5% |
(3) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, fod yn dâl cyfeirio’r diffoddwr tân hwnnw.
(4) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser fod yn swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser llawn sydd â rôl gyfatebol a hyd gwasanaeth cyfwerth.
(5) Pan fo newid yn digwydd mewn cyflogaeth gynllun, neu unrhyw newid perthnasol sy’n effeithio ar dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod blwyddyn ariannol, a swm diwygiedig y tâl pensiynadwy yn dod o fewn ystod cyfradd gyfraniadau gwahanol, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu bod rhaid cymhwyso’r gyfradd honno, a rhaid iddo roi gwybod i’r aelod pa gyfradd gyfraniadau a gymhwysir ac o ba ddyddiad y’i cymhwysir.
(6) Pan fo’r rheolwr cynllun wedi penderfynu o dan baragraff (5) fod cyfradd gyfraniadau wahanol yn gymwys, rhaid i’r aelod dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd honno, ar y tâl pensiynadwy y mae’r aelod hwnnw’n ei gael ar yr adeg honno.
(7) At y diben o ganfod pa gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid diystyru unrhyw ostyngiad mewn tâl pensiynadwy sy’n digwydd o ganlyniad i unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol—
(a)mwynhad, neu fwynhad tybiedig, gan yr aelod o unrhyw hawlogaeth statudol yn ystod unrhyw gyfnod i ffwrdd o’i waith;
(b)absenoldeb cysylltiedig â phlentyn;
(c)absenoldeb gyda chaniatâd;
(d)absenoldeb salwch;
(e)absenoldeb oherwydd anaf;
(f)absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;
(g)absenoldeb oherwydd anghydfod undebol; neu
(h)amgylchiadau a bennir gan y rheolwr cynllun mewn achos penodol.
(8) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniadau aelod” (“member contributions”) yw cyfraniadau y mae aelod actif yn eu talu, o dan y rheoliad hwn a rheoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau o’r gwaith).
120.—(1) Rhaid i aelod actif sy’n absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a bennir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol.
(2) Os yw aelod actif yn absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw gyfnod, caiff yr aelod hwnnw dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy yr oedd yr aelod wedi ei gael yn union cyn atal y tâl ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
(3) Os yw aelod actif yn absennol ynglŷn ag anghydfod undebol, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu’r cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
(4) Os yw aelod actif i ffwrdd o’i waith yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, talu swm y cyfraniadau cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
(5) Pan fo paragraff (2), (3) neu (4) yn gymwys, rhaid talu’r cyfraniadau cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y trinnir yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig.
121.—(1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ac a drinnir fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod).
(2) Cyfrifir swm y cyfraniadau sydd i’w talu drwy luosi’r gyfradd gyfraniadau gyda’r lleiaf o’r symiau canlynol—
(a)y tâl pensiynadwy tybiedig;
(b)cyfanswm y tâl gwirioneddol a gafwyd ac unrhyw daliad ychwanegol a wnaed gan y cyflogwr cynllun.
122.—(1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb cysylltiedig â phlentyn dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol, ond nid yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw swm sy’n gostwng y tâl pensiynadwy gwirioneddol yr aelod oherwydd hawl bosibl i gael tâl statudol.
(2) Os yw aelod actif ar absenoldeb mamolaeth arferol, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu arferol ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod hwnnw o absenoldeb, trinnir yr aelod hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’r aelod hwnnw wedi talu cyfraniadau am y cyfnod di-dâl hwnnw o dan baragraff (1).
(3) Caiff aelod actif sydd ar absenoldeb mamolaeth ychwanegol, absenoldeb tadolaeth ychwanegol, absenoldeb mabwysiadu ychwanegol neu absenoldeb rhiant, nad oes hawl ganddo i gael unrhyw dâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael.
(4) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau ac eithrio cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae’r aelod hwnnw yn dychwelyd i’w waith ar ôl y cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, neu, os nad yw’r aelod yn dychwelyd i’w waith, y diwrnod pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogedig gan y cyflogwr.
123.—(1) Caiff y cyflogwr cynllun ddidynnu’r cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 119 (cyfraniadau aelodau) allan o bob rhandaliad o dâl pensiynadwy wrth iddo ddod yn ddyladwy, oni chytunwyd ar ddull arall o dalu rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.
(2) Caniateir didynnu cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 121(1) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn) allan o unrhyw daliad a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf y Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951(1), i’r graddau y maent yn daladwy mewn cysylltiad â’r un cyfnod.
(3) Caniateir talu cyfraniadau y mae’r aelod wedi gwneud dewisiad i’w talu, neu y mae’n ofynnol iddo’u talu, o dan reoliadau 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig) a 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn) fel cyfandaliad neu drwy ddidyniadau o randaliadau o dâl pensiynadwy, fel y cytunir rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.
124. Mae Atodlen 1 yn cael effaith (gan gynnwys ynglŷn â didynnu taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol).