YR ATODLENNI

ATODLEN 2Darpariaethau trosiannol

RHAN 2Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun18

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

2

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

b

os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac

c

os yw P—

d

(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu

e

(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

b

os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

c

oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

i

o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

ii

o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.