RHAN 6Buddion marwolaeth

PENNOD 5Talu buddion marwolaeth

Pensiynau partner sy’n goroesi a phensiynau plentyn cymwys: atal dros dro ac adennill110

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

os, ar farwolaeth aelod, dyfarnwyd a thalwyd pensiwn o dan y Rhan hon; a

b

os, yn ddiweddarach, mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod yr aelod neu’r person y talwyd y pensiwn iddo wedi gwneud datganiad anwir neu wedi celu yn fwriadol ffaith berthnasol mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

2

Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff y rheolwr cynllun—

a

peidio â thalu’r pensiwn; a

b

adennill unrhyw daliad a wnaed o dan y dyfarniad.

3

Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.