Apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol
164.—(1) Caiff aelod (P) sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad rheolwr cynllun ar fater o natur feddygol apelio felly i fwrdd o ganolwyr meddygol yn unol â darpariaethau rheoliadau 165 (hysbysiad o apêl) i 172 (hysbysiadau etc).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo penderfyniad—
(a)wedi ei wneud mewn cysylltiad â barn a gafwyd o dan reoliad 162(2) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) neu dystiolaeth feddygol y dibynnwyd arni fel y crybwyllir yn rheoliad 162(7); neu
(b)yn cael ei ailystyried o dan reolid 163(4) (adolygu barn feddygol) mewn cysylltiad ag ymateb o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw,
rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud, cadarnhau neu ddiwygio’r penderfyniad (yn ôl fel y digwydd), anfon at P y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (4).
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflenwi dogfennau a gyflenwyd eisoes o dan reoliad 162(8) neu 163(5).
(4) Y dogfennau yw—
(a)copi o’r farn, yr ymateb neu’r dystiolaeth, (yn ôl fel y digwydd);
(b)esboniad o’r weithdrefn ar gyfer apelau o dan y Bennod hon; ac
(c)datganiad bod rhaid i P, os yw P yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y rheolwr cynllun ar fater meddygol ei natur, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n datgan enw a chyfeiriad P a sail yr apêl, ddim hwyrach nag 28 diwrnod wedi i P gael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol eu cyflenwi o dan y paragraff hwn, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.