RHAN 13Atodol

PENNOD 4Cyffredinol

Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn195

Rhaid i’r rheolwr cynllun roi i aelod sydd ar fin cychwyn cyfnod o absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ddatganiad sy’n nodi—

a

tâl pensiynadwy tybiedig yr aelod hwnnw tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;

b

y gyfradd cyfraniadau aelod a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw;

c

manylion unrhyw daliadau sydd i’w talu gan y cyflogwr i’r aelod tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; a

d

y cyfraniad cyflogwr a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.