RHAN 3Aelodaeth o’r cynllun

PENNOD 4Aelodaeth

Aelodaeth ohiriedig29

Mae person (P) yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy—

a

os yw P yn peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth, cyn bo P yn hawlio pensiwn o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy;

b

os nad yw P yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; ac

c

os oes gan P dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys neu os oes taliad gwerth trosglwyddiad, ac eithrio taliad o’r fath allan o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, wedi ei dderbyn gan y cynllun hwn mewn perthynas â P.