68.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith.
(2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol sy’n daladwy i aelod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, drwy adio cyfansymiau is-baragraffau (a), (b) ac (c)—
(a)y cyfanswm sy’n deillio o—
(i)cymryd swm y pensiwn enilledig ymddeol a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,
(ii)didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,
(iii)didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a
(iv)didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw; a
(b)y cyfanswm sy’n deillio o—
(i)cymryd swm y pensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un) a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,
(ii)didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,
(iii)didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a
(iv)didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;
(c)swm y pensiwn afiechyd haen uchaf (os oes un) a ddyfarnwyd i’r aelod o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf).