80.—(1) Caiff aelod sy’n cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol arfer opsiwn o dan y rheoliad hwn i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.
(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio—
(a)drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n nodi’r swm sydd i’w gymudo; a
(b)cyn gwneud y taliad cyntaf o’r pensiwn.
(3) Os yw aelod yn arfer yr opsiwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol pensiwn yr aelod, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.
(4) Ni chaiff aelod gyfnewid am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)25% o’r pensiwn; a
(b)cyfran o’r pensiwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun(1) at ddibenion Rhan 4 o DC 2004.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn sy’n deillio o hawliau credyd pensiwn os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan y rheoliad hwn cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn afiechyd haen uchaf.
Gweler adran 241 o Ddeddf Cyllid 2004. Diwygiwyd yr adran honno gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraff 74 a chan Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25), Atodlen 21, paragraff 9.