RHAN 6Buddion marwolaeth

PENNOD 3Pensiynau ar gyfer plant cymwys

Cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi99

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad oedd gan unrhyw berson, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, hawl i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

2

Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, ac os oes plentyn cymwys, mae hawl gan y plentyn hwnnw hefyd i gael y swm o bensiwn yn unol â pharagraffau (3) neu (4) y byddai partner sy’n goroesi wedi ei gael—

a

o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) os oedd yr aelod (P) yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth;

b

o dan reoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) os oedd P yn aelod gohiriedig ar ddyddiad ei farwolaeth;

c

o dan reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr) os oedd P yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth.

3

Os nad oes dim ond un plentyn cymwys, bydd y plentyn hwnnw’n cael swm ychwanegol sy’n hafal i’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2).

4

Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth P, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) rhwng nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

5

Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).