2015 Rhif 777 (Cy. 61)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 19731 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Ebrill 2015.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 20142

Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 20143 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Rheoliad 2(3)3

Yn lle paragraff (3) o reoliad 2 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder—

3

Ond pan fo mewnforwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am lwyth yn gwneud cais i’r gwiriad iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth gael ei gynnal y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd a bod y gwiriad iechyd planhigion cyfan yn cael ei gynnal ar y llwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth yw—

a

y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

b

y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

Atodlen 24

Yn lle Atodlen 2 (ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol), rhodder—

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

Colofn 1 Genws

Colofn 2 Swm

Colofn 3 Gwlad tarddiad

Colofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Blodau wedi’u torri

Dianthus

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

1.43

2.15

Ecuador

7.18

10.77

Kenya

2.39

3.59

Twrci

11.96

17.95

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01, hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ecuador

0.05, hyd at uchafswm o 57.43

0.08, hyd at uchafswm o 86.15

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.14

0.03, hyd at uchafswm o 28.71

Twrci

0.09, hyd at uchafswm o 95.73

0.13, hyd at uchafswm o 143.59

Rosa

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

1.43

2.15

Ecuador

1.43

2.15

Ethiopia

4.78

7.18

Kenya

2.39

3.59

Tanzania

7.18

10.77

Zambia

7.18

10.77

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01, hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ecuador

0.01, hyd at uchafswm o 11.48

0.01, hyd at uchafswm o 17.23

Ethiopia

0.04, hyd at uchafswm o 38.29

0.06, hyd at uchafswm o 57.43

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.14

0.03, hyd at uchafswm o 28.71

Tanzania

0.05, hyd at uchafswm o 57.43

0.08, hyd at uchafswm o 86.15

Zambia

0.05, hyd at uchafswm o 57.43

0.08, hyd at uchafswm o 86.15

Colofn 1 Genws

Colofn 2 Swm

Colofn 3 Gwlad tarddiad

Colofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd)(£)

Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Canghennau gyda deiliant

Phoenix

hyd at 100 kg

Costa Rica

16.75

25.13

am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny

Costa Rica

1.66, hyd at uchafswm o 134.02

2.49, hyd at uchafswm o 201.03

Ffrwythau

Citrus

hyd at 25,000 kg

Yr Aifft

7.18

10.77

Israel

4.78

7.18

Mecsico

4.78

7.18

Moroco

2.39

3.59

Periw

4.78

7.18

Tunisia

35.90

53.85

Twrci

1.43

2.15

Uruguay

35.90

53.85

UDA

7.18

10.77

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Aifft

0.28

0.43

Israel

0.19

0.28

Mecsico

0.19

0.28

Moroco

0.09

0.14

Periw

0.19

0.28

Tunisia

1.43

2.15

Twrci

0.05

0.08

Uruguay

1.43

2.15

UDA

0.28

0.43

Malus

hyd at 25,000 kg

Yr Ariannin

11.96

17.95

Brasil

11.96

17.95

Chile

2.39

3.59

Seland Newydd

4.78

7.18

De Affrica

2.39

3.59

UDA

23.93

35.90

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Ariannin

0.47

0.71

Brasil

0.47

0.71

Chile

0.09

0.14

Seland Newydd

0.19

0.28

De Affrica

0.09

0.14

UDA

0.95

1.43

Passiflora

hyd at 25,000 kg

Colombia

4.78

7.18

Kenya

4.78

7.18

De Affrica

16.75

25.13

Zimbabwe

35.90

53.85

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.19

0.28

Kenya

0.19

0.28

De Affrica

0.66

1.00

Zimbabwe

1.43

2.15

Colofn 1Genws

Colofn 2 Swm

Colofn 3 Gwlad tarddiad

Colofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Prunus

hyd at 25,000 kg

Yr Ariannin

23.93

35.90

Chile

4.78

7.18

Moroco

23.93

35.90

De Affrica

4.78

7.18

Twrci

4.78

7.18

UDA

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Ariannin

0.95

1.43

Chile

0.19

0.28

Moroco

0.95

1.43

De Affrica

0.19

0.28

Twrci

0.19

0.28

UDA

0.19

0.28

Psidium

hyd at 25,000 kg

Brasil

35.90

53.85

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Brasil

1.43

2.15

Pyrus

hyd at 25,000 kg

Yr Ariannin

4.78

7.18

Chile

7.18

10.77

Tsieina

23.93

35.90

De Affrica

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Ariannin

0.19

0.28

Chile

0.28

0.43

Tsieina

0.95

1.43

De Affrica

0.19

0.28

Vaccinium

hyd at 25,000 kg

Yr Ariannin

11.96

17.95

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Ariannin

0.47

0.71

Llysiau

Capsicum

hyd at 25,000 kg

Israel

2.39

3.59

Moroco

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Israel

0.09

0.14

Moroco

0.19

0.28

Momordica

hyd at 25,000 kg

Surinam

16.75

25.13

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Surinam

0.66

1.00

Solanum melongena

hyd at 25,000 kg

Kenya

4.78

7.18

Twrci

4.78

7.18

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Kenya

0.19

0.28

Twrci

0.19

0.28

Rebecca EvansY Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) (“y Gyfarwyddeb”). Mae Erthygl 13d o’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol bod Aelod Wladwriaethau yn codi ffioedd i dalu am gostau’r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o’r Gyfarwyddeb.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(3) o’r prif Reoliadau er mwyn egluro’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â gwiriadau iechyd planhigion a wneir ar lwythi (neu rannau o lwythi) y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd.

Mae Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn nodi’r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i wiriadau iechyd planhigion lefel is a gytunwyd o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o’r Gyfarwyddeb. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 er mwyn rhoi effaith i’r hysbysiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 30 Medi 2014 am y gwiriadau iechyd planhigion lefel is sy’n gymwys i blanhigion a chynhyrchion planhigion penodol.

Mae’r cyfraddau arolygu ar gyfer Citrus o Dunisia ac Uruguay wedi cynyddu (o 25% i 75% ac o 15% i 75% yn y drefn honno) ac mae’r ffioedd wedi codi i gyfateb â hynny.

Nid yw ffrwythau Mangifera o Frasil yn gymwys mwyach ar gyfer ffioedd cyfradd ostyngol gan fod y nwydd hwn yn ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100%. Mae’r cofnod perthnasol, felly, wedi ei dynnu o Atodlen 2 ac mae’r ffioedd yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cael eu cymhwyso i’r llwythi hyn.

Mae cyfraddau arolygu’r canlynol wedi gostwng ac mae’r ffioedd wedi gostwng i gyfateb â hynny: Rosa o Zambia (o 25% i 15%), Citrus o Fecsico a Pheriw (o 15% i 10%), Prunus o Dwrci ac UDA (15% i 10%), Psidium o Frasil (o 100% i 75%) a Pyrus o Chile (o 25% i 15%).

Mae ffrwythau Capsicum o Foroco yn gymwys ar gyfer ffi ar gyfradd ostyngol sy’n cyfateb i’w cyfradd arolygu o 10%. Mae’r ffi ostyngol ar gyfer y nwydd hwn wedi ei hychwanegu at Atodlen 2.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.