xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2(3)

3.  Yn lle paragraff (3) o reoliad 2 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder—

(3) Ond pan fo mewnforwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am lwyth yn gwneud cais i’r gwiriad iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth gael ei gynnal y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd a bod y gwiriad iechyd planhigion cyfan yn cael ei gynnal ar y llwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.