xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
(a)sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b)sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd;
(c)y telir iddo bensiwn afiechyd haen uchaf neu haen isaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015; a
(d)sydd â phensiwn afiechyd a delir o’r cynllun newydd, sydd wedi ei leihau o ganlyniad i P gael yr hawl i daliad o bensiwn cynllun (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004(1)) o dan yr hen gynllun.
(2) Mae adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004(2) (digwyddiadau crisialu budd a symiau a grisielir) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P, fel y pennir ym mharagraff (3).
(3) Mae taliad o unrhyw bensiwn cynllun i P o’r hen gynllun i’w drin fel pe na bai’n ddigwyddiad crisialu budd o fewn ystyr adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004.
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
(a)sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b)sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac
(c)sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.
(2) Mae adran 234 o Ddeddf Cyllid 2004(3) (trefniadau buddion diffiniedig) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P fel a bennir ym mharagraff (3).
(3) Wrth gyfrifo gwerth terfynol hawliau P o dan y cynllun newydd ar gyfer y cyfnod mewnbwn pensiwn pan gaiff P yr hawl i daliad o’r pensiwn afiechyd haen isaf, rhaid peidio â chyfrif fel rhan o’r gwerth terfynol yr elfen o’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n cynrychioli gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.
2004 p .12. Diwygiwyd paragraff 2 gan adrannau 101 a 104 o Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7) a pharagraff 11 o Atodlen 10 a Rhan 4 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno; gan adran 161 o Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25) a pharagraff 20 o Atodlen 23 i’r Ddeddf honno; gan adran 70 o Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11) a pharagraff 7 o Atodlen 20 i’r Ddeddf honno; gan adran 51 o Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29); a chan O.S. 2007/493.
Diwygiwyd adran 216 gan adran 101 o Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7) a pharagraffau 1 ac 31 o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno; adran 161 o Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25) a pharagraffau 1 a 30 o Atodlen 23 i’r Ddeddf honno; gan adran 92 o Ddeddf Cyllid 2008 (p. 9) a pharagraffau 1, 4 a 5 o Atodlen 29 i’r Ddeddf honno; a chan adran 65 o Ddeddf Cyllid 2011(p. 11) a pharagraffau 43, 62 a 73 o Atodlen 16 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 234 gan adran 66 o Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11) a pharagraffau 1, 10 a 17 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.