Gwerthoedd trosglwyddo
11.—(1) Mae Pennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; gwerthoedd trosglwyddo) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun, yn—
(a)adran 93(1)(a)(1) (cwmpas Pennod 4),
(b)adran 97(3)(a) (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol), ac
(c)adran 98(1A) a (3)(2) (amrywio a cholli hawliau o dan adran 94),
mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.
(1)
Amnewidiwyd adran 93(1)(a) gan adran 152(2) o Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26).
(2)
Mewnosodwyd adran 98(1A) a diwygiwyd adran 98(3) gan adran 173 o Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), a pharagraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.