NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 108 o’r Mesur sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gomisiynydd y Gymraeg fod â dogfen polisi gorfodi.