Y diwrnod penodedig

2.—(1Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Tachwedd 2016.

(2Yn Rhan 1 (Rheoleiddio tai rhent preifat)—

(a)adran 4 (gofyniad i landlord fod yn gofrestredig);

(b)adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig) at bob diben sy’n weddill;

(c)adran 6 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) at bob diben sy’n weddill;

(d)adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;

(e)adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig) at bob diben sy’n weddill;

(f)adran 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod);

(g)adran 10 (ystyr gwaith gosod) at bob diben sy’n weddill;

(h)adran 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo);

(i)adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;

(j)adran 13 (y drosedd o benodi asiant heb drwydded);

(k)adran 28 (erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol);

(l)adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig) at bob diben sy’n weddill;

(m)adran 30 (gorchmynion atal rhent);

(n)adran 31 (dirymu gorchmynion atal rhent);

(o)adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent);

(p)adran 33 (gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach);

(q)adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33) at bob diben sy’n weddill;

(r)adran 35 (troseddau gan gyrff corfforaethol);

(s)adran 40 (cod ymarfer) at bob diben sy’n weddill;

(t)adran 41 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;

(u)adran 42 (cyfarwyddiadau) at bob diben sy’n weddill;

(v)adran 43 (gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth);

(w)adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau); ac

(x)adran 46 (rheoliadau ar ffioedd) at bob diben sy’n weddill.

(3Yn Rhan 2 o’r Ddeddf (Digartrefedd), adran 75(3) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).

(4Yn Rhan 4 o’r Ddeddf (Safonau ar gyfer tai cymdeithasol), adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).

(5Yn Rhan 5 o’r Ddeddf (Cyllid tai), adran 131(1), (2), (3), (4)(a) a (b) (diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai).

(6Yn Rhan 6 o’r Ddeddf (Caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr), adran 138 (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988).