Search Legislation

Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gorchmynion Ad-dalu Rhent) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1022 (Cy. 245)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gorchmynion Ad-dalu Rhent) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2016

Gwnaed

17 Hydref 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Hydref 2016

Yn dod i rym

24 Tachwedd 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 34(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gorchmynion Ad-dalu Rhent) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2016, a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2016.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Diwygio cais am orchymyn ad-dalu rhent i dynnu ymaith fudd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol nad oedd yn briodol daladwy

2.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os, yn ystod achos ar gais o dan adran 32(1) o’r Ddeddf (gorchmynion ad-dalu rhent), daw i sylw’r awdurdod mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd y mae’r cais yn ymwneud ag ef y gall fod budd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu nad oedd yn briodol daladwy.

(2Caiff yr awdurdod wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i ddiwygio ei gais drwy roi—

(a)yn achos budd-dal tai, yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o’r swm hwnnw y mae’n credu ei bod yn briodol daladwy;

(b)yn achos dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, yn lle’r swm y cyfeirir ato yn adran 33(2)(a) o’r Ddeddf y credid yn wreiddiol ei fod yn gymwys, y swm y credir bellach ei fod yn gymwys (os yw’n wahanol).

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2)—

(a)mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006(2) neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(3) (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach); a

(b)mae dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(4) (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach).

Defnyddio symiau a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr awdurdod ddefnyddio swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent at unrhyw rai o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion yw ad-dalu costau a threuliau’r awdurdod (pa un ai’n gostau gweinyddol neu gyfreithiol) yr aed iddynt wrth, neu sy’n gysylltiedig â—

(a)gwneud y cais o dan adran 32(1) o’r Ddeddf;

(b)ymdrin ag unrhyw gais am drwydded o dan Ran 1 o’r Ddeddf (Rheoleiddio tai rhent preifat);

(c)erlyn y person priodol am drosedd o dan adran 7(5) o’r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 13(3) o’r Ddeddf (pa un a gychwynnir achos cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn).

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn awdurdodi defnyddio swm ar gyfer ad-dalu costau neu dreuliau awdurdod os cafodd y costau neu’r treuliau hynny eu talu eisoes gan neu ar ran y person priodol.

Trin gwargedau

4.  Rhaid talu swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent nas defnyddir at ddiben a grybwyllir yn rheoliad 3(2) i Gronfa Gyfunol Cymru.

Carl Sargeant

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru

17 Hydref 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn atodol i ddarpariaethau adrannau 32 a 33 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r adrannau hynny yn ymdrin â gorchmynion ad-dalu rhent. Yn benodol, maent yn ymdrin â gwneud gorchmynion ad-dalu rhent gan dribiwnlys eiddo preswyl (“y tribiwnlys”) ar gais awdurdod trwyddedu, awdurdod tai lleol (“yr awdurdod”) neu denant annedd.

Ni ellir gwneud gorchmynion ad-dalu rhent oni bai bod y tribiwnlys wedi ei fodloni o ran nifer o faterion. Y mater perthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn yw bod budd-dal tai neu un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu neu eu talu (pa un ai i’r person priodol ai peidio) (adran 33(1)(b)), ar gyfer cyfnod pryd yr ymddengys i’r tribiwnlys fod trosedd o dan adran 7(5) neu adran 13(3) o’r Ddeddf wedi ei chyflawni.

Pan fo’r tribiwnlys wedi ei fodloni bod person wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o’r Ddeddf a bod budd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu, mae adran 33(1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent. Rhaid i’r gorchymyn ad-dalu rhent ei gwneud yn ofynnol i’r person a oedd â’r hawlogaeth, ar yr adeg y talwyd y budd-dal tai neu’r dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, i dderbyn y taliadau cyfnodol y talwyd y budd-dal tai neu’r dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol mewn cysylltiad â hwy (“y person priodol”), dalu i’r awdurdod swm sy’n hafal i gyfanswm y budd-dal tai neu’r dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol a dalwyd. Mae cyfanswm y budd-dal tai neu’r dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol a dalwyd, yn gyfanswm a dalwyd mewn cysylltiad â’r cyfnod pryd yr ymddengys i’r tribiwnlys fod trosedd o dan adran 7(5) neu adran 13(3) o’r Ddeddf wedi ei chyflawni.

Mae gan y tribiwnlys ddisgresiwn i wneud gorchymyn ad-dalu rhent am y cyfryw swm sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdod sydd wedi gwneud cais am orchymyn ad-dalu rhent ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ddiwygio ei gais pan fo’n credu y gordalwyd budd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol. Mae’r cais mewn cysylltiad â’r swm o fudd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol y mae’r awdurdod yn credu ei fod yn briodol daladwy o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006. Mae paragraff (3) o reoliad 2 yn diffinio “yn briodol daladwy” mewn cysylltiad â budd-dal tai sy’n daladwy o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 a chredyd cynhwysol sy’n daladwy o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.

Mae rheoliad 3 yn pennu at ba ddibenion y caniateir defnyddio arian a dderbynnir gan yr awdurdod o dan orchymyn ad-dalu rhent.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a dderbynnir o dan orchymyn ad-dalu rhent nas defnyddir at y dibenion a bennir yn rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources