2016 Rhif 1057 (Cy. 249)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20091, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae adran 8(3) o’r Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Tachwedd 2016.
Dirymu2
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 20122 wedi ei ddirymu.
Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)