Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1057 (Cy. 249)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016

Gwnaed

1 Tachwedd 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Tachwedd 2016

Yn dod i rym

24 Tachwedd 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae adran 8(3) o’r Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Tachwedd 2016.

Dirymu

2.  Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012(2) wedi ei ddirymu.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/2539 (Cy. 278)) sy’n pennu, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, wrth iddynt arfer swyddogaethau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.