Offerynnau Statudol Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
2 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Chwefror 2016
Yn dod i rym
29 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) i (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1) bellach wedi eu breinio ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 29 Chwefror 2016.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “archwiliad swyddogol” (“official examination”) yw archwiliad neu arolygiad a gynhelir gan swyddog awdurdodedig, gan gynnwys un a gynhelir drwy sampl;
ystyr “ardystio” (“certification”), ac mae “ardystiedig” (“certified”) i’w ddehongli yn unol â hynny, yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, ardystio yn unol â rheoliad 10; a
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, ardystio gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â’r Gyfarwyddeb;
ystyr “Awdurdod Ardystio” (“Certification Authority”) yw’r awdurdod sy’n ymwneud ag ardystio tatws hadyd yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd;
ystyr “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw’r catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau o blanhigion amaethyddol a gyhoeddir yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;
ystyr “categori” (“category”) yw’r categori o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig (neu, mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, y categorïau sydd ag effaith gyfatebol o dan ddeddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn unol â chytundeb masnach y Swistir);
ystyr “dogfen swyddogol” (“official document”) yw—
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru sy’n bodloni gofynion Rhan 2 o Atodlen 2;
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu’r diriogaeth lle cafodd y tatws hadyd eu cynhyrchu sy’n bodloni gofynion Erthygl 13(1)(b) o’r Gyfarwyddeb;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964;
mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd yr Undeb;
ystyr “gradd yr Undeb” (“Union grade”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd yr Undeb a benderfynir yn unol ag Atodlen 4 wrth eu hardystio, sef
yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC yr Undeb neu gradd PB yr Undeb;
yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb;
yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A yr Undeb neu radd B yr Undeb;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru—
yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, naill ai gradd PBTC yr Undeb neu radd PB yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb 2014/21/EU a’r Atodiad iddi;
yn achos tatws hadyd sylfaenol, naill ai gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU ac Atodiad I iddi; neu
yn achos tatws hadyd ardystiedig, naill ai gradd A yr Undeb neu radd B yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU ac Atodiad II iddi;
ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw—
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru nas defnyddiwyd o’r blaen ac sy’n bodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 2;
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd sy’n bodloni gofynion, fel y bo’n briodol i’r tatws hadyd y mae’r label yn ymwneud â hwy, Erthygl 13(1)(a) neu 18(f) o’r Gyfarwyddeb neu Erthygl 9 o’r Penderfyniad;
ystyr “lot” (“lot”) yw llwyth, neu ran y gellir ei hadnabod o lwyth, a gofnodwyd ac a gofrestrwyd fel eitem ar wahân mewn anfoneb, nodyn danfon neu ddogfen arall a ddarperir yn unol â rheoliad 17;
ystyr “marchnata” (“marketing”, “market”, “marketed”) yw—
gwerthu, dal gafael ar gyda golwg ar werthu neu gynnig ar werth, neu
unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo at ddibenion defnydd masnachol o datws hadyd i drydydd partïon,
pa un ai am gydnabyddiaeth ai peidio, ac at y dibenion hyn nid yw “defnydd masnachol” (“commercial exploitation”) i’w ystyried fel petai’n cynnwys cyflenwi tatws hadyd i gyrff profi ac arolygu swyddogol, na chyflenwi tatws hadyd i unrhyw berson at ddibenion eu prosesu na’u pecynnu ar yr amod nad yw’r person hwnnw yn ennill hawl i’r tatws hadyd a gyflenwir;
ystyr “pecyn neu gynhwysydd” (“package or container”) yw—
unrhyw becyn na chafodd ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw ddiben ac y mae modd ei gau a’i selio; neu
unrhyw gynhwysydd na chafodd ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw ddiben, neu unrhyw gynhwysydd sydd, ers iddo gael ei ddefnyddio o’r blaen, wedi cael ei lanhau a’i ddiheintio ar yr amod bod y defnydd o unrhyw gynhwysydd o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru;
ystyr “y Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol” (“the National Lists Regulations”) yw Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(3);
ystyr “Rhestr Genedlaethol” (“National List”) yw rhestr o amrywogaethau o rywogaethau tatws sydd wedi ei pharatoi a’i chyhoeddi—
yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol; neu
gan Aelod-wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol(4);
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog i Weinidogion Cymru neu berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn;
ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu ran o gloronen neu unrhyw blanhigyn neu ran o blanhigyn Solanum tuberosum L, neu unrhyw rywogaeth arall o Solanum sy’n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohoni;
ystyr “tatws hadyd” (“seed potatoes”) yw—
tatws sy’n dwyn y disgrifiad hwnnw neu unrhyw ddisgrifiad sy’n dynodi eu haddasrwydd ar gyfer eu plannu a’u lluosogi ac y mae modd eu defnyddio i’w plannu a’u lluosogi; neu
unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i’w plannu a’u lluosogi;
ystyr “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru” (“seed potatoes produced outside Wales”) yw—
tatws hadyd a gynhyrchir yn unrhyw ran o Ynysoedd Prydain ac eithrio Cymru;
tatws hadyd a gynhyrchir mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig; neu
tatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir;
ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws ac eithrio tatws hadyd ac a ardystiwyd fel tatws hadyd ardystiedig yn unol â rheoliad 10;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy’n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd ardystiedig ac wedi eu graddio ar un o raddau’r Undeb;
ystyr “tatws hadyd cyn-sylfaenol” (“pre-basic seed potatoes”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd sylfaenol ac a ardystiwyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol yn unol â rheoliad 10;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy’n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 18(f) o’r Gyfarwyddeb yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd cyn-sylfaenol ac wedi eu graddio ar un o raddau’r Undeb;
ystyr “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” (“seed potatoes of conservation variety”) yw unrhyw amrywogaeth o datws hadyd a dderbynnir gan unrhyw Aelod-wladwriaeth i’w gatalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC;
ystyr “tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu” (“test and trial seed potatoes”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd yr awdurdododd Gweinidogion Cymru eu marchnata at ddibenion profi a threialu yn unol â rheoliad 9;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy’n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 9 o’r Penderfyniad;
ystyr “tatws hadyd sylfaenol” (“basic seed potatoes”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd ardystiedig ac a ardystiwyd fel tatws hadyd sylfaenol yn unol â rheoliad 10;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy’n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd sylfaenol ac wedi eu graddio ar un o raddau’r Undeb;
ystyr “tystysgrif cnwd sy’n tyfu” (“growing crop certificate”) yw tystysgrif cnwd sy’n tyfu a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 1;
mae i “wedi ei addasu’n enetig” yr un ystyr ag sydd i “genetically modified” yn y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(2) O ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y Gyfarwyddeb neu’r Penderfyniad, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Gyfarwyddeb neu’r Penderfyniad, i’w ddehongli fel cyfeiriad at y ffaith bod deddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn cael effaith gyfatebol yn unol â chytundeb masnach y Swistir.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at oddefiant o ran tatws hadyd sy’n ffurfio sampl i gael ei ddehongli—
(a)o ran goddefiant i unrhyw glefyd neu bla, difrod a diffyg a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad at gyfran pwysau’r tatws hadyd yn y sampl yr effeithir arnynt gan y clefyd neu bla, y difrod a diffyg, neu gan unrhyw gyfuniad o’r clefyd neu bla, y difrod a diffyg hwnnw, mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi fel canran;
(b)o ran goddefiant i faw neu sylwedd estronol arall a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad at gyfran pwysau mater o’r fath mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi fel canran;
(c)o ran goddefiant i wyriad neu glefyd a bennir yn y tablau yn Atodlen 4, fel cyfeiriad at nifer y planhigion o datws hadyd yr effeithir arnynt gan y gwyriad neu’r clefyd mewn perthynas â chyfanswm nifer y planhigion yn y sampl, wedi ei fynegi fel canran.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cytundeb masnach y Swistir” (“Swiss trade agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Cyngor a’r Comisiwn 2002/309/EC ac a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/724/EU(5).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cyfarwyddeb 2008/62/EC” (“Directive 2008/62/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy’n darparu ar gyfer rhan-ddirymiadau penodol er mwyn derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi eu haddasu’n naturiol i’r amodau lleol a rhanbarthol ac sydd o dan fygythiad drwy erydiad genetig ac ar gyfer marchnata had a thatws hadyd perthynol o’r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny(6);
ystyr “Cyfarwyddeb 2014/20/EU” (“Directive 2014/20/EU”) yw Cyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/20/EU sy’n penderfynu graddau tatws hadyd sylfaenol ac ardystiedig yr Undeb, a’r amodau a’r dynodiadau sy’n gymwys i raddau o’r fath(7);
ystyr “Cyfarwyddeb 2014/21/EU” (“Directive 2014/21/EU”) yw Cyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/21/EU sy’n penderfynu amodau gofynnol a graddau yr Undeb ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol(8);
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(9);
ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddhau’n fwriadol i’r amgylchedd organeddau wedi eu haddasu’n enetig(10);
ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC ynghylch gweithredu rheolau lle y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy’n perthyn i amrywogaethau y mae cais i’w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno(11);
ystyr “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi eu haddasu’n enetig(12).
4. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i datws hadyd a fwriedir ar gyfer eu hallforio i unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
5.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio—
(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol;
(b)tatws hadyd sylfaenol;
(c)tatws hadyd ardystiedig;
(d)tatws hadyd gwyddonol a rhai i’w dethol; neu
(e)tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu.
(2) Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd a gafodd eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel triniaeth i lesteirio eginiad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “tatws hadyd gwyddonol a rhai i’w dethol” (“scientific and selection seed potatoes”) yw—
(a)o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd yr awdurdododd Gweinidogion Cymru eu marchnata yn unol â rheoliad 8;
(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd yr awdurdododd yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws eu marchnata yn unol ag Erthygl 6(1)(a) o’r Gyfarwyddeb.
6.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth oni bai bod—
(a)yr amrywogaeth wedi ei rhestru yn y Rhestr Genedlaethol o amrywogaethau rhywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol; a
(b)y tatws hadyd hynny wedi eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i berson sy’n bwriadu cynhyrchu tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth ddarparu i Weinidogion Cymru, cyn gwneud hynny, ar y ffurf honno ac yn y modd hwnnw sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, fanylion ysgrifenedig am faint a lleoliad yr ardal sydd i’w defnyddio i gynhyrchu’r had hwnnw.
(3) At ddibenion Erthyglau 14 a 15(2) o Gyfarwyddeb 2008/62/EC, caiff Gweinidogion Cymru bennu mwyafswm y tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth y caniateir ei farchnata mewn unrhyw dymor cynhyrchu penodol a chânt bennu mwyafsymiau gwahanol ar gyfer personau gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o bersonau.
(4) Ni chaiff swm y tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth sy’n cael ei farchnata gan berson fod yn fwy nag unrhyw fwyafswm a bennir o dan baragraff (3) mewn perthynas â’r person hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy’n marchnata tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth ddarparu i Weinidogion Cymru, os cânt gais ysgrifenedig i wneud hynny, fanylion ysgrifenedig am swm ac amrywogaeth y tatws hadyd a osodir ar y farchnad yn ystod pob tymor cynhyrchu.
7.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol o radd PBTC onid yw lleiafswm maint y cloron yn eu rhwystro rhag mynd drwy rwyll sgwâr 25 o filimetrau x 25 o filimetrau.
(2) Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd mewn lot pan fo mwyafswm yr amrywiad rhwng maint cloron yn golygu bod y gwahaniaeth rhwng y maintioli lleiaf a ganiateir a’r maintioli mwyaf a ganiateir yn fwy na 25 o filimetrau.
(3) Mae gofynion paragraff (2) i gael eu trin fel petaent wedi eu bodloni ar yr amod nad yw mwy na 3% o bwysau cyfan y cloron yn y lot yn cynnwys—
(a)cloron sy’n llai na’r maintioli lleiaf a ganiateir; neu
(b)cloron sy’n fwy na’r maintioli mwyaf a ganiateir.
(4) Pan fo’n ofynnol datgan maintioli tatws hadyd yn unol â’r Rheoliadau hyn, rhaid datgan y canlynol—
(a)mesuriadau sgwariau’r rhwyll nad yw’r cloron yn mynd drwyddi, pan mai’r un yw’r maintioli lleiaf a ganiateir â’r maintioli mwyaf a ganiateir;
(b)y maintioli lleiaf a ganiateir a’r maintioli mwyaf a ganiateir, pan fo’r rhain yn wahanol i’w gilydd.
(5) At ddibenion paragraff (4), rhaid datgan mesuriadau o fwy na 35 o filimetrau i’r 5 milimetr agosaf.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “y maintioli lleiaf a ganiateir” (“the lower size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad yw’r gloronen leiaf yn mynd drwyddi;
(b)ystyr “y maintioli mwyaf a ganiateir” (“the upper size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad yw’r gloronen fwyaf yn mynd drwyddi.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata symiau bach o datws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata tatws hadyd sy’n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu’n enetig oni bai bod awdurdodiad mewn grym o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(3) Rhaid i gais am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata tatws hadyd ar gyfer profion neu dreialon a gynhelir ar fentrau amaethyddol er mwyn casglu gwybodaeth ar drin neu ddefnyddio amrywogaeth o rywogaeth o datws yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 5.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata—
(a)swm o datws hadyd sy’n fwy nag a ganiateir gan Erthygl 7 o’r Penderfyniad;
(b)tatws hadyd sy’n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu’n enetig oni bai bod y deunydd hwnnw wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(3) Rhaid i gais am awdurdodiad neu i adnewyddu awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(4) Mae awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1), neu adnewyddu awdurdodiad o’r fath, am gyfnod o flwyddyn neu am unrhyw gyfnod byrrach y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.
(5) Wrth awdurdodi marchnata yn unol â pharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru osod unrhyw amodau sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol yn nhyb Gweinidogion Cymru o ystyried natur y profion neu’r treialon a natur y tatws hadyd y mae’r cais yn ymwneud â hwy, gan gynnwys amod yn ymwneud â chadw cofnodion o ran marchnata’r tatws hadyd.
(6) Mae awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol—
(a)pan fo’r cais y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a) o Atodlen 5 yn cael ei dynnu’n ôl neu ei wrthod yn unol â’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol; neu
(b)pan fo’r amrywogaeth o rywogaeth o datws y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef yn cael ei gofnodi mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’n ôl unrhyw awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) pan dorrir unrhyw amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5).
(8) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r person a gafodd awdurdodiad yn unol â pharagraff (1) ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag—
(a)canlyniadau’r profion neu’r treialon y mae’r awdurdodiad yn ymwneud â hwy;
(b)symiau’r tatws hadyd a farchnatawyd yn ystod y cyfnod a awdurdodwyd ac enw’r Aelod-wladwriaeth lle bwriedir marchnata’r tatws hadyd.
10.—(1) Rhaid i ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Os bodlonir gofynion paragraff (3), rhaid i swyddog awdurdodedig ardystio bod tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru—
(a)yn datws hadyd cyn-sylfaenol;
(b)yn datws hadyd sylfaenol; neu
(c)yn datws hadyd ardystiedig.
(3) Y gofynion yw—
(a)bod tystysgrif cnwd sy’n tyfu wedi cael ei dyroddi o ran y tatws hadyd; a
(b)o’u harchwilio’n swyddogol bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw’r tatws hadyd dros ben unrhyw un o’r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn narpariaethau perthnasol Atodlen 3.
(4) Rhaid i gais am ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(5) At ddibenion paragraff (2), mae label swyddogol a ddyroddwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn o ran tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol bod swyddog awdurdodedig wedi ardystio bod y tatws hadyd y mae’r label swyddogol yn ymwneud â hwy yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol neu’n datws hadyd ardystiedig, yn ôl y digwydd.
11.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol na thatws hadyd ardystiedig ac eithrio mewn lot a’i chynnwys yn gyfan gwbl yn datws hadyd—
(a)o un categori;
(b)o un amrywogaeth; ac
(c)o un radd.
(2) Ni chaiff unrhyw berson farchnata tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu ac eithrio mewn lot a’i chynnwys yn gyfan gwbl yn datws hadyd o un amrywogaeth.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn mae lot o datws hadyd i’w thrin fel petai ei chynnwys yn gyfan gwbl o un amrywogaeth ar yr amod—
(a)mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, nad yw nifer y tatws hadyd yn y lot nad ydynt o’r wir amrywogaeth neu sydd o amrywogaeth wahanol mewn perthynas â chyfanswm y tatws hadyd yn y lot—
(i)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol yn fwy na 0.01%;
(ii)yn achos tatws hadyd sylfaenol yn fwy na 0.1%;
(iii)yn achos tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i’w profi a’u treialu yn fwy na 0.2%;
(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, bod y lot yn ddigon cydryw yn unol â’r safonau a osodir gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â’r Gyfarwyddeb o ran marchnata’r tatws hynny.
12. Yn ddarostyngedig i reoliad 18, ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18, ni chaiff unrhyw berson farchnata, ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei labelu’n briodol—
(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol;
(b)tatws hadyd sylfaenol;
(c)tatws hadyd ardystiedig; neu
(d)tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “pecyn neu gynhwysydd wedi ei labelu’n briodol” (“properly labelled package or container”) yw pecyn neu gynhwysydd—
(a)sydd â label swyddogol ynghlwm i’r tu allan iddo; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sy’n cynnwys dogfen swyddogol.
(3) Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys—
(a)pan fo’r manylion a bennir ym mharagraff 16 o Atodlen 2 wedi eu hargraffu’n annileadwy ar y pecyn neu’r cynhwysydd; neu
(b)pan fo’r label swyddogol o ddeunydd gludiog neu o ddeunydd sy’n gwrthsefyll traul.
(4) Rhaid i gais i Weinidogion Cymru am label swyddogol neu ddogfen swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(5) Ar ôl iddynt eu bodloni eu hunain o’r canlynol yn unig y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol—
(a)bod y tatws hadyd yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol, yn datws hadyd ardystiedig neu’n datws hadyd sydd i’w profi a’u treialu;
(b)bod y tatws hadyd yn cydymffurfio â’r gofynion maint lleiaf a bennir yn rheoliad 7 ac nad yw’r amrywiad mwyaf mewn maint rhwng cloron yn fwy na’r hyn a bennir yn rheoliad 7;
(c)bod y tatws hadyd wedi eu cynnwys mewn pecyn neu gynhwysydd;
(d)nad yw’r tatws hadyd wedi cael eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel triniaeth i lesteirio eginiad;
(e)y cafodd y tatws hadyd eu cynaeafu, eu storio, eu cludo a’u trafod mewn modd sy’n lleihau hyd yr eithaf y risg o halogiad drwy unrhyw un o’r clefydau neu’r plâu a bennir yn Atodlen 3;
(f)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 19, nad yw’r tatws hadyd yn mynd dros ben unrhyw un o’r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y Rhan briodol o Atodlen 3; ac
(g)na fu unrhyw fethiant arall i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn o ran unrhyw un neu ragor o’r tatws hadyd.
(6) Os cafodd pecyn neu gynhwysydd ei ail selio gan swyddog awdurdodedig yn unol â rheoliad 14(3) rhaid i’r label swyddogol ddatgan—
(a)bod y pecyn neu’r cynhwysydd wedi cael ei ail selio felly;
(b)dyddiad yr ail selio; ac
(c)enw’r swyddog awdurdodedig fu’n gyfrifol am yr ail selio.
(7) Pan fo unrhyw datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i’w profi a’u treialu wedi cael eu trin ag unrhyw gynnyrch cemegol, rhaid i fath a swyddogaeth neu enw priodol y cynnyrch hwnnw—
(a)fod wedi ei ddatgan ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn neu’r cynhwysydd; a
(b)naill ai—
(i)fod wedi ei ddatgan ar ddogfen sydd yn y pecyn neu’r cynhwysydd; neu
(ii)fod wedi ei argraffu yn annileadwy ar y pecyn neu’r cynhwysydd.
(8) At ddibenion adran 16(7)(a) o’r Ddeddf, nid ystyrir bod gwybodaeth sy’n ymwneud ag amrywogaeth o datws hadyd a geir mewn datganiad statudol yn anwir mewn manylyn perthnasol yn unig am ei fod yn anwir—
(a)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, o ran dim mwy na 0.01% o’r tatws hadyd;
(b)yn achos tatws hadyd sylfaenol, o ran dim mwy na 0.1% o’r tatws hadyd;
(c)yn achos tatws hadyd ardystiedig a thatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu, o ran dim mwy na 0.2% o’r tatws hadyd.
(9) Ni chaiff unrhyw berson, mewn cysylltiad â marchnata unrhyw datws hadyd, neu mewn cysylltiad â’u paratoi ar gyfer eu marchnata, fynd ati’n fwriadol i atgynhyrchu, i symud ymaith, i altro, i ddifwyno, i guddio neu i gamddefnyddio mewn unrhyw fodd unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu unrhyw label sydd ynghlwm neu ddogfen a gyflenwir yn unol â pharagraff (2), ac eithrio yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau hyn neu Orchmynion a wneir o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(13).
14.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18, ni chaiff unrhyw berson farchnata, ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio’n briodol—
(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol;
(b)tatws hadyd sylfaenol;
(c)tatws hadyd ardystiedig; neu
(d)tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio’n briodol” (“properly sealed package or container”)—
(a)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, yw pecyn neu gynhwysydd caeedig sydd wedi cael ei selio â dyfais selio nas torrwyd, gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth;
(b)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw pecyn neu gynhwysydd caeedig sydd wedi cael ei selio yn unol ag Erthygl 11(1) o’r Gyfarwyddeb.
(3) Pan fo dyfais selio ar becyn neu gynhwysydd wedi ei thorri, rhaid peidio ag ail selio’r pecyn neu’r cynhwysydd â dyfais selio ac eithrio gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dyfais selio” (“sealing device”) yw dyfais a gymhwyswyd i’r pecyn neu’r cynhwysydd yn y fath fodd fel y bydd yn cael ei thorri pan agorir y pecyn neu’r cynhwysydd.
15. Ni chaiff unrhyw berson farchnata tatws hadyd sydd wedi eu haddasu’n enetig oni bai—
(a)y dangosir yn glir mewn unrhyw wybodaeth farchnata, gan gynnwys unrhyw gatalog gwerthu neu sylwadau marchnata eraill a ddarperir gan y person sy’n marchnata’r tatws hadyd, bod y tatws hadyd wedi eu haddasu’n enetig; a
(b)bod unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu label neu ddogfen arall sydd ynghlwm wrth y tatws hadyd, yn mynd gyda hwy neu’n ymwneud â hwy, yn dangos yn glir eu bod wedi eu haddasu’n enetig.
16. Rhaid i unrhyw berson sy’n marchnata mwy na 2 gilogram o datws hadyd a fewnforiwyd i Gymru o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd roi i Weinidogion Cymru, yn ysgrifenedig ac o fewn mis i farchnata’r tatws hadyd am y tro cyntaf, y manylion a bennir yn Atodlen 6.
17. Yn ddarostyngedig i reoliad 18, rhaid i berson sy’n gwerthu tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i’w profi a’u treialu ddyroddi i’r prynwr, yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y gwerthiant, neu os nad yw’r tatws hadyd yn cael eu danfon ar adeg y gwerthiant, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl eu danfon, nodyn gwerthiant, nodyn danfon, anfoneb neu ddogfen gyffelyb sy’n pennu, o ran y tatws hadyd, y manylion a bennir yn Atodlen 7.
18. Nid yw rheoliadau 12, 13, 14 a 17 yn gymwys i fanwerthiannau o lai na 50 cilogram o datws hadyd—
(a)mewn amgylchiadau pan ddangosir yn amlwg ar adeg y gwerthiant ar label sydd ynghlwm wrth becyn sy’n cynnwys y tatws hadyd, neu ar ddogfen neu hysbysiad a osodir gerllaw’r tatws hadyd, ddatganiad o’r manylion a bennir yn Atodlen 7; neu
(b)mewn cynwysyddion nas defnyddiwyd o’r blaen at unrhyw ddiben, sydd â’r manylion a bennir yn Atodlen 7 wedi eu hargraffu neu wedi eu marcio yn ddealladwy ac yn annileadwy mewn modd arall ar bob un ohonynt, neu y ceir ynghlwm wrth neu o fewn pob un ohonynt label a farciwyd â’r manylion hynny.
19.—(1) Rhaid i sampl o datws hadyd a gymerir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn gael ei chymryd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i sampl gael ei chymryd gan swyddog awdurdodedig a chaiff fod o’r swmp neu’r nifer a bod o’r rhan honno neu’r rhannau hynny o’r cnwd sy’n tyfu neu sydd wedi ei gynaeafu ag sy’n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo sampl yn ofynnol ac eithrio at ddiben mewn cysylltiad ag ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, a bod crynswth y tatws hadyd yn datws hadyd—
(a)sy’n ffurfio mwy nag un llwyth, neu
(b)sy’n gysylltiedig â mwy nag un dystysgrif cnwd sy’n tyfu,
(4) Rhaid rhannu’r tatws hadyd fel bod pob llwyth neu, yn ôl y digwydd, swmp y tatws sy’n gysylltiedig â phob tystysgrif cnwd sy’n tyfu yn ffurfio lot ar wahân a rhaid, os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, samplu pob lot ar wahân.
20.—(1) Rhaid i berson sy’n cynhyrchu tatws hadyd a fwriedir ar gyfer eu marchnata gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o bryniant y tatws hadyd y cynhyrchwyd y tatws hadyd hynny ohonynt ac o fanylion y cnydau a dyfwyd.
(2) Rhaid i berson sy’n marchnata tatws hadyd gadw cofnod, am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd, o’r marchnata ar datws hadyd o’r fath.
21.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig gynnal archwiliad a chymryd samplau o datws hadyd ac arolygu a chymryd copïau o ddogfen berthnasol at ddiben sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i berson ganiatáu, ar unrhyw amser rhesymol, i swyddog awdurdodedig—
(a)archwilio a chymryd samplau o datws hadyd sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth; a
(b)arolygu a chymryd copïau o unrhyw ddogfen berthnasol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, caiff swyddog awdurdodedig drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i berson ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)cyflwyno unrhyw datws hadyd neu unrhyw ddogfen berthnasol neu sicrhau eu bod ar gael i’w harchwilio;
(b)darparu gwybodaeth y mae’r person hwnnw’n ymwybodol ohoni neu’n ei chredu mewn cysylltiad â chynhyrchu, ardystio neu farchnata’r tatws hadyd.
(4) Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn unol â pharagraff (3) gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw o fewn saith niwrnod i’w gyflwyno neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw dystysgrif cnwd sy’n tyfu, label swyddogol, dogfen swyddogol, dogfen neu label arall, neu gofnod neu anfoneb arall sy’n ymwneud â phlannu, cynhyrchu, ardystio neu farchnata tatws hadyd.
22.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’n ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol pan fônt wedi eu bodloni—
(a)bod y tatws hadyd y mae’r label swyddogol neu’r ddogfen swyddogol yn ymwneud â hwy—
(i)heb gael eu cynaeafu, eu storio, eu cludo neu eu trafod mewn modd sy’n lleihau hyd yr eithaf y risg o halogiad gan unrhyw un neu ragor o’r clefydau neu’r plâu a bennir yn Atodlen 3;
(ii)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 19, yn mynd dros ben unrhyw un o’r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y Rhan briodol o Atodlen 3; neu
(iii)mewn modd arall yn methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau hyn; neu
(b)bod y label swyddogol neu’r ddogfen swyddogol yn cynnwys unrhyw fanylyn sy’n anwir mewn mater perthnasol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’n ôl dystysgrif cnwd sy’n tyfu pan fônt wedi eu bodloni—
(a)nad oes, neu nad oes bellach, gydymffurfiaeth â gofynion Atodlen 1; neu
(b)bod y dystysgrif cnwd sy’n tyfu yn cynnwys unrhyw fanylyn sy’n anwir mewn mater perthnasol.
(3) Pan dynnir yn ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii), caiff y tatws hadyd y cymerwyd y sampl ohonynt fod yn destun archwiliad swyddogol er mwyn penderfynu a oes unrhyw rai ohonynt nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.
(4) Pan gynhelir archwiliad swyddogol yn unol â pharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol mewn perthynas â’r tatws hadyd hynny y canfyddir nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.
(5) Pan dynnir yn ôl label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd sy’n tyfu yn unol â’r rheoliad hwn, caiff swyddog awdurdodedig—
(a)symud ymaith a chadw’r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu’r dystysgrif cnwd sy’n tyfu; neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae’r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu’r dystysgrif cnwd sy’n tyfu yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ei ddanfon i’r swyddog awdurdodedig o fewn unrhyw gyfnod y caiff y swyddog awdurdodedig ei bennu.
(6) Rhaid i berson sydd â label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd sy’n tyfu a gafodd ei dynnu’n ôl neu ei thynnu’n ôl yn unol â’r rheoliad hwn yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth—
(a)caniatáu i swyddog awdurdodedig symud ymaith y label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu’r dystysgrif cnwd sy’n tyfu yn unol â pharagraff (5)(a);
(b)cydymffurfio ag unrhyw beth a wnaed yn ofynnol yn unol â pharagraff (5)(b).
23.—(1) At ddibenion rheoliad 21(3), mae hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i unrhyw berson os caiff ei ddanfon at y person hwnnw yn bersonol neu os caiff ei adael iddo yn ei gartref neu yn ei fan gwaith hysbys diwethaf neu ei anfon drwy’r post mewn llythyr wedi ei gyfeirio ato yno.
(2) Caiff hysbysiad—
(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), ei gyflwyno i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw;
(b)yn achos partneriaeth gan gynnwys partneriaeth Albanaidd (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), ei gyflwyno i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ei gyflwyno i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth honno.
(3) At ddibenion paragraff (2), prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
24.—(1) Mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rheoliadau hyn, addesir neu eithrir gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.
(2) Addesir adran 25 fel petai, at ddibenion yr adran, unrhyw gyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at “mangre” (“premises”) fel y’i diffinnir ym mharagraff (6) ac unrhyw gyfeiriad at is-adran sy’n cynnwys cyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at yr is-adran honno wedi ei haddasu felly.
(3) Addesir adran 25(1) fel petai’r cyfeiriad at is-adran (4) o’r adran honno yn gyfeiriad at yr is-adran honno fel y’i haddaswyd gan ddarpariaeth paragraff (4).
(4) Yn adran 25(4) hepgorer y geiriau o “potatoes” (yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos) i’r diwedd.
(5) Yn adran 26, hepgorer is-adrannau (2) a (4) i (9).
(6) Ym mharagraff (2), mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir neu adeilad, ac eithrio tŷ annedd preifat, ac unrhyw adeiledd sefydlog neu symudol, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad neu gynhwysydd llwyth.
25. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(14);
(b)Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008(15);
(c)Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2009(16);
(d)Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010(17).
26. Yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol, yn y diffiniad o “the Seeds Marketing Regulations”, yn is-baragraff (b)(vi), yn lle “Seed Potatoes (Wales) Regulations 2006” rhodder “Seed Potatoes (Wales) Regulations 2015”.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2016
Rheoliad 2(1)
1. Pan gaiff gais i ardystio unrhyw datws hadyd, rhaid i swyddog awdurdodedig—
(a)dyrannu i’r person sy’n gwneud y cais rif sydd i’w alw’n “rhif adnabod y cynhyrchydd” (pan na fo un eisoes yn bod ar gyfer y person hwnnw);
(b)ar ôl archwiliad swyddogol, penderfynu yn unol â’r Atodlen hon ac Atodlen 4 ym mha gategorïau a graddau y mae modd marchnata’r tatws hadyd; ac
(c)yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 11, dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu yn unol â pharagraff 2.
2.—(1) Rhaid i dystysgrif cnwd sy’n tyfu ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b)y categorïau a’r graddau y penderfynodd y swyddog awdurdodedig fod modd marchnata’r tatws hadyd ynddynt yn unol â pharagraff 1(b);
(c)enw’r uned amaethyddol y tyfwyd y cnwd arno;
(d)rhif adnabod y cynhyrchydd;
(e)y dyddiad pan gafodd y cnwd sy’n tyfu ei arolygu;
(f)amrywogaeth y tatws hadyd;
(g)ardal y tatws hadyd; ac
(h)lleoliad y cae lle tyfwyd y tatws hadyd.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i “uned amaethyddol” yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “agricultural unit” yn adran 109(2) o Ddeddf Amaeth 1947(18).
3. Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu ond pan fo swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni, o ran y tatws hadyd a archwiliwyd gan y swyddog hwnnw—
(a)bod y tatws hadyd o amrywogaeth o rywogaeth o datws sydd wedi ei gofnodi mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin;
(b)bod y tatws hadyd mewn unrhyw un cnwd o un amrywogaeth;
(c)bod y tatws hadyd wedi eu cymryd o gnwd sy’n iach o’r clefydau neu’r plâu a ganlyn—
(i)Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc);
(ii)Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);
(iii)Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp Sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al);
(iv)Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al);
(v)Firoid y Gloronen Bigfain;
(vi)Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)); ac
(vii)Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne));
(d)nad yw’r tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu lle y tyfwyd hwy yn dir a ddynodwyd o dan Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(19) fel tir a halogwyd gan Glefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) neu o fewn parth diogelwch a ddynodwyd o dan y Gorchymyn hwnnw;
(e)nad yw neu na fu bylchu’n eithafol yn unman yn y cnwd o’r tatws hadyd sy’n tyfu;
(f)na chafodd y cnwd sy’n tyfu ei chwynnu’n ormodol; ac
(g)y cymerwyd pob cam rhesymol mewn hwsmonaeth yn effeithiol er mwyn atal clefydau a phlâu rhag digwydd, datblygu nac ymledu.
4.—(1) Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw radd oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu y tyfwyd hwy arno—
(a)yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd a gynhaliwyd gan Weinidogion Cymru cyn plannu’r cnwd, nad yw wedi ei halogi â’r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);
(b)yn dir nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir sydd wedi ei heintio â phoblogaeth Ewropeaidd o’r Llyngyr Tatws; ac
(c)yn dir nad yw wedi ei ddefnyddio ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd yn union cyn plannu’r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.
5. Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PBTC yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
(a)planhigion o amrywogaeth wahanol; neu
(b)planhigion sydd wedi eu heffeithio gan firws cymedrol neu ddifrifol.
6. Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PB yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
(a)mwy na 0.01% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n amrywio o’u hamrywogaeth a’u math neu sy’n amrywogaeth wahanol; neu
(b)mwy na 0.5% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n arddangos symptomau o heintiau firws pan fo’r symptomau hynny i’w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.
7.—(1) Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw radd oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu y tyfwyd hwy arno—
(a)yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd a gynhaliwyd gan Weinidogion Cymru cyn plannu’r cnwd, nad yw wedi ei halogi â’r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);
(b)yn dir nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir sydd wedi ei heintio â phoblogaeth Ewropeaidd o’r Llyngyr Tatws; ac
(c)yn dir nad yw wedi ei ddefnyddio ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd yn union cyn plannu’r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.
8. Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw radd oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni na fydd y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
(a)mwy na 0.25% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i’w hamrywogaeth neu sy’n amrywogaeth wahanol; ac
(b)yn achos—
(i)gradd S, dim mwy nag 1%,
(ii)gradd SE, dim mwy na 2%, a
(iii)gradd E, dim mwy na 4%,
yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n dangos symptomau o heintiau firws sy’n gyffredin yn Ewrop pan fo’r symptomau hynny i’w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.
9.—(1) Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu y tyfwyd hwy arno—
(a)yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd a gynhaliwyd gan Weinidogion Cymru cyn plannu’r cnwd, nad yw wedi ei halogi â’r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);
(b)yn dir nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir sydd wedi ei heintio â phoblogaeth Ewropeaidd o’r Llyngyr Tatws; ac
(c)yn dir nad yw wedi ei ddefnyddio ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y pedair blynedd yn union cyn plannu’r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.
10. Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi’i fodloni bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
(a)yn achos—
(i)gradd A yr Undeb, dim mwy na 0.5%, a
(ii)gradd B yr Undeb, dim mwy na 0.5%,
yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i’w hamrywogaeth neu sy’n amrywogaeth wahanol; a
(b)yn achos—
(i)gradd A yr Undeb, dim mwy nag 8%, a
(ii)gradd B yr Undeb, dim mwy na 10%,
yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n dangos symptomau o heintiau firws difrifol sy’n gyffredin yn Ewrop pan fo’r symptomau hynny i’w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.
Rheoliad 2(1)
1. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
2. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.
3. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.
4. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu fod wedi ei liwio’n oren.
5. Rhaid i label swyddogol fesur dim llai na 110 o filimetrau x 67 o filimetrau.
6. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol, mewn perthynas â’r tatws hadyd y mae’n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—
(a)yr Awdurdod Ardystio a’r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfoddau neilltuol;
(b)rhif adnabod y cynhyrchydd neu rif cyfeirnod y lot;
(c)mis a blwyddyn ei selio;
(d)y rhywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor Rufeinig, o dan ei enw botanegol, y caniateir ei roi mewn ffurf dalfyredig a heb enwau’r awduron, neu o dan ei enw cyffredin, neu’r ddau;
(e)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor Rufeinig;
(f)y radd; ac
(g)y disgrifiad “pre-basic seed potatoes”.
7. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig—
(a)cynnwys y datganiad “EU Rules and Standards”; a
(b)mewn perthynas â’r tatws hadyd y mae’n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)yr Awdurdod Ardystio a’r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfoddau neilltuol;
(ii)rhif adnabod y cynhyrchydd neu rif cyfeirnod y lot;
(iii)mis a blwyddyn ei selio;
(iv)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor Rufeinig;
(v)y wlad lle’u cynhyrchwyd;
(vi)y categori;
(vii)y radd;
(viii)y maint; ac
(ix)y pwysau net.
8. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu—
(a)cynnwys y datganiadau “variety not yet officially listed” ac “for tests and trials only”; a
(b)mewn perthynas â’r tatws hadyd y mae’n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)yr Awdurdod Ardystio a’r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfoddau neilltuol;
(ii)rhif adnabod y cynhyrchydd neu rif cyfeirnod y lot;
(iii)mis a blwyddyn ei selio;
(iv)y rhywogaeth;
(v)dynodiad yr amrywogaeth y mae’r tatws hadyd i gael eu marchnata oddi tano (y caniateir iddo fod yn gyfeirnod y bridiwr, y dynodiad arfaethedig neu’r dynodiad a gymeradwywyd);
(vi)y rhif cyfeirnod mewn cysylltiad â’r cais a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 4(1)(a) o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol ar gyfer derbyn yr amrywogaeth o dan sylw ar Restr Genedlaethol;
(vii)y maint; ac
(viii)y pwysau net.
9. Yn achos tatws hadyd o amrywogaeth cadwraeth, yn ogystal â gofynion paragraffau 1 i 8, rhaid i label swyddogol gynnwys yr wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol gan Erthygl 18 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC.
10. Heb iddo leihau effaith paragraffau 1 i 8, caiff label swyddogol gynnwys unrhyw ddatganiadau pellach—
(a)sy’n ymwneud â’r cenhedliad maes y mae’r tatws hadyd yn perthyn iddo;
(b)sy’n ofynnol neu y caniateir eu cynnwys mewn label swyddogol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006; neu
(c)sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
11. Os nad yw’r label swyddogol yn dangos y cenhedliad maes, bernir bod tatws hadyd yn perthyn—
(a)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, i’r pedwerydd cenhedliad;
(b)yn achos tatws hadyd sylfaenol—
(i)gradd S yr Undeb, i’r pumed cenhedliad;
(ii)gradd SE yr Undeb, i’r chweched cenhedliad;
(iii)gradd E yr Undeb, i’r seithfed cenhedliad;
(c)yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A yr Undeb neu radd B yr Undeb, i’r nawfed cenhedliad.
12. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei lliwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
13. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu fod wedi ei lliwio’n oren.
14. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod yn wyn yn bennaf.
15. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod yn las yn bennaf.
16. Rhaid i ddogfen swyddogol, mewn perthynas â’r tatws hadyd y mae’n ymwneud â hwy, ddatgan—
(a)rhif adnabod y cynhyrchydd neu rif cyfeirnod y lot;
(b)mis a blwyddyn ei seilio; ac
(c)y wlad lle’u cynhyrchwyd.
17. Rhaid i label swyddogol neu ddogfen swyddogol fod yn Saesneg a chânt hefyd fod yn Gymraeg.
18. Yn ogystal â’r testun Saesneg sy’n rhaid ei gynnwys yn sgil paragraff 6(g), rhaid i unrhyw destun Cymraeg sy’n cyfateb ag ef gynnwys y disgrifiad “tatws hadyd cyn-sylfaenol”.
19. Yn ogystal â’r testun Saesneg sy’n rhaid ei gynnwys yn sgil paragraff 7(a), rhaid i unrhyw destun Cymraeg sy’n cyfateb ag ef gynnwys y datganiad “Rheolau a Safonau’r UE”.
20. Yn ogystal â’r testun Saesneg sy’n rhaid ei gynnwys yn sgil paragraff 8(a), rhaid i unrhyw destun Cymraeg sy’n cyfateb ag ef gynnwys y datganiad “amrywogaeth nas rhestrwyd yn swyddogol eto” ac “ar gyfer profi a threialu’n unig”.
Rheoliad 2(3)
Colofn 1 Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig | Colofn 2 Goddefiannau unigol |
---|---|
Grŵp 1 | |
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) | Dim |
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) | Dim |
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws) | Dim |
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) | Dim |
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | Dim |
Firoid y Gloronen Bigfain | Dim |
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) | Dim |
Grŵp II | |
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans) (Mont) de Bary) | Dim |
Pydredd Du’r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al spp) atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al neu’r ddau | Dim |
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow) | Dim |
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant | Dim |
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium) | Dim |
Y Madredd (rhywogaeth Phoma) | Dim |
Cloron a ddifrodwyd gan rew | Dim |
Grŵp III | |
Brychni’r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M B Ellis | Dim |
Grŵp IV | |
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) | Dim |
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) | Dim |
Grŵp V | |
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) | Dim |
Grŵp VI | |
Brychau allanol, gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron afiach â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r amrywogaeth | Dim |
Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y | Dim |
Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achoswyd gan gen arian (Helminthosporium solani) | Dim |
Grŵp VII | |
Baw neu sylwedd estronol arall | 1.0% |
Colofn 1 Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig | Colofn 2 Goddef-iannau unigol | Colofn 3 Goddef-iannau grŵp | Colofn 4 Goddef-iannau grŵp cyfunol |
---|---|---|---|
Grŵp I | |||
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) | Dim | – | – |
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne) | Dim | – | – |
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws) | Dim | – | – |
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) | Dim | – | – |
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | Dim | – | – |
Firoid y Gloronen Bigfain | Dim | – | – |
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) | Dim | – | – |
Grŵp II | |||
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary) | 0.2% | ) | ) |
Pydredd Du’r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al spp) atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al neu’r ddau | 0.2% | ) | ) |
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimumTrow) | 0.2% | ) | ) |
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant | 0.2% | ) 0.2% | ) |
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium) | 0.2% | ) | ) |
Y Madredd (rhywogaeth Phoma) | 0.2% | ) | ) |
Cloron a ddifrodwyd gan rew | 0.2% | ) | ) |
Grŵp III | |||
Brychni’r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield)) M B Ellis | 0.2% | ) | ) 6.0% |
Grŵp IV | |||
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd | 1.0% | ) 5.0% | ) |
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd | 5.0% | ) | ) |
Grŵp V | |||
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd | 1.0% | ) | ) |
Grŵp VI | |||
Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron wedi eu heintio â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r rhywogaeth | 3.0% | ) | – |
Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y | Dim | ) 3.0% | – |
Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achoswyd gan gen arian (Helminthosporium solani) | 0.5% | ) | – |
Grŵp VII | |||
Baw neu sylwedd estronol arall | 1.0% | – | – |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig | Goddef-iannau unigol | Goddef-iannau grŵp | Goddef-iannau grŵp cyfunol | |||
Grŵp I | ||||||
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) | Dim | – | – | |||
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) | Dim | – | – | |||
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws) | Dim | – | – | |||
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) | Dim | – | – | |||
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | Dim | – | – | |||
Firoid y Gloronen Bigfain | Dim | – | – | |||
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) | Dim | – | – | |||
Grŵp II | ||||||
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary) | 0.5% | ) | ) | |||
Pydredd Du’r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al spp) atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al neu’r ddau | 0.5% | ) | ) | |||
Pydreddau Meddal gan gynnwys Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimumTrow) | 0.5% | ) 0.5% | ) | |||
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant | 0.5% | ) | ) | |||
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium) | 0.5% | ) | ) | |||
Y Madredd (rhywogaeth Phoma) | 0.5% | ) | ) | |||
Cloron a ddifrodwyd gan rew | 0.5% | ) | ) | |||
Unrhyw un o’r diffygion Grŵp II hyn sy’n ymddangos fel symptom pydredd gwlyb | 0.2% | ) | ) | |||
Grŵp III | ||||||
Brychni’r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M B Ellis) | 0.5% ac eithrio gradd E yr Undeb, gradd A yr Undeb a gradd B yr Undeb; 2.0% ar gyfer gradd E yr Undeb, gradd A yr Undeb a gradd B yr Undeb yn unig | ) | ) | |||
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd (ac eithrio pan fo’r crach llychlyd yn ei ffurf ganseraidd) | 3.0% | ) 5.0% | ) 6.0% ar gyfer tatws hadyd sylfaenol ac 8.0% ar gyfer tatws hadyd ardystiedig | |||
Grŵp IV | ||||||
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd | 5.0% | ) | ) | |||
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd | 5.0% | ) | ) | |||
Grŵp V | ||||||
Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron afiach â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r rhywogaeth | 3.0% | ) | – | |||
Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achoswyd gan gen arian (Helminthosporium solani) | 1.0% | ) 3.0% | – | |||
Madredd arwynebol a achosir gan fathau o firws tatws Y | 0.1% | ) | – | |||
Grŵp VI | ||||||
Baw neu sylwedd estronol arall | 1.0% | – | – |
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig | Goddef-iannau unigol | Goddef-iannau cyfunol |
---|---|---|
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne) | Dim | – |
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws) | Dim | – |
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp. sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) | Dim | – |
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | Dim | – |
Firoid y Gloronen Bigfain | Dim | – |
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) | Dim | – |
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) | Dim | – |
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws) | Dim | – |
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) | Dim | – |
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | Dim | – |
Baw neu sylwedd estronol arall | 2.0% | – |
Pydredd sych a phydredd gwlyb, ac eithrio os achosir hwy gan Synchytrium endobioticum, Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp Sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) neu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al) | 1.0% | ) |
Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron afiach â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r rhywogaeth | 3.0% | ) 6.0% |
Y Crach Cyffredin: cloron yr effeithiwyd arnynt dros fwy na thraean o’u harwynebedd | 5.0% | ) |
(1) Mae’r clefydau, plâu, difrod a’r diffygion sydd i’w hagregu ar gyfer goddefiant grŵp, goddefiant grŵp cyfunol neu oddefiant cyfunol perthnasol yn cael eu dynodi gan “)”.
(2) Mae’r clefydau, plâu, difrod a’r diffygion na ddylid eu hagregu ar gyfer goddefiant grŵp, goddefiant grŵp cyfunol neu oddefiant cyfunol perthnasol yn cael eu dynodi gan “-”.
(3) Mae llinellau llorweddol o fewn colofn yn dynodi rhychwant goddefiant grŵp, goddefiant grŵp cyfunol neu oddefiant cyfunol perthnasol.
Rheoliad 2(3)
Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o raddau’r Undeb a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.
Colofn 1 Gradd yr Undeb | Colofn 2 Gofynion | Colofn 3 Goddefiannau |
---|---|---|
PBTC | (1) Rhaid i’r tatws hadyd— | Dim |
(a) bod yn deillio o stoc cenhedlol neu gloron a brofwyd— | ||
(i) sy’n rhydd o Pectobacterium spp., Dickeya spp., firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; a | ||
(ii) a gyflenwyd gan ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, ac a dyfwyd ar uned lle nad oes deunydd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy’n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi eu profi sy’n dod o ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, wedi cael ei dyfu; | ||
(b) bod wedi eu cadw rhag— | ||
(i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; | ||
(ii) ysgub y gwrachod a phydredd du’r coesyn; | ||
(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math; a | ||
(iv) sgrwff yn y pridd; | ||
(c) wedi eu cynhyrchu (yn achos planhigion a chloron) drwy ficro-luosogi mewn cyfleuster gwarchodedig ac mewn cyfrwng tyfu sy’n rhydd rhag plâu; a | ||
(d) (yn achos cloron) nad ydynt wedi eu lluosi y tu hwnt i’r cenhedliad cyntaf. | ||
PB | (2) Rhaid i’r tatws hadyd fod yn deillio — | |
(a) o stoc cenhedlol neu gloron a brofwyd— | ||
(i) a gyflenwyd gan ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, ac a dyfwyd ar uned lle nad oes deunydd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy’n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi eu profi sy’n dod o ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, wedi cael ei dyfu; ac | (i) Pydredd du’r coesyn – dim | |
(ii) sy’n rhydd o Pectobacterium spp., Dickeya spp., firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; neu | (ii) yn amrywio o’u math neu o amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd 0.01% | |
(b) o stoc a gafodd ei raddio fel gradd PB yr Undeb o genhedliad maes blaenorol yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu | (iii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - dim | |
(c) unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru Cymru. | (iv) Firysau amryliw eraill 0.1% | |
(3) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cadw rhag— | ||
(i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; | ||
(ii) ysgub y gwrachod a phydredd du’r coesyn; | ||
(iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math; | ||
(iv) sgrwff yn y pridd; | ||
(v0 planhigion o amrywogaeth wahanol. | ||
(4) Pedwar yw uchafswm y cenedliadau maes. |
Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o raddau’r Undeb a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Gradd yr Undeb | Gofynion | Goddefiannau |
S | (1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio— | (i) Gwyriadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth gwahanol gan gynnwys sgrwff yn y pridd – 0.1% |
(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb o bedwar neu lai cenhedliad maes yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu | ||
(b) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru. | (ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 0.02% | |
(2) Pump yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o radd gyn-sylfaenol. | (iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.2% | |
(iv) Pydredd du’r coesyn - 0.1% | ||
SE | (1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio— | (i) Amrywiad mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.1% |
(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb o bump neu lai cenhedliad maes yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu | ||
(b) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru. | (ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 0.1% | |
(2) Chwech yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o ddosbarth cyn-sylfaenol neu ddosbarth sylfaenol. | (iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.5% | |
(iv) Pydredd du’r coesyn – 0.5% | ||
E | (1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio— | (i) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.1% |
(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu | ||
(b) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu o stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb o chwe chenhedliad maes neu lai yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu | (ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd -) 0.4% | |
(c) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru. | ||
(2) Saith yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o radd gyn-sylfaenol neu radd sylfaenol. | (iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.8% | |
(iv) Pydredd du’r coesyn – 1.0% |
Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o’r graddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Gradd yr Undeb | Gofynion | Goddefiannau | |
A | Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu— | ||
(a) yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd A yr Undeb cenhedliad maes wyth; neu | (i) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd – 2.0% | ||
(b) o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod Gweinidogion Cymru neu mewn amgylchiadau y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddynt. | (ii) Firysau eraill - 2.0% | ||
(iii) Cyfuniad o firysau tatws Y, A a chrychni’r dail a firysau eraill - 2.0% | |||
(iv) Pydredd du’r coesyn - 2.0% | |||
(v) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.2% | |||
B | Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu— | ||
(a) yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd A yr Undeb cenhedliad maes wyth neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd B yr Undeb cenhedliad maes wyth; neu | (i) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 6.0% | ||
(b) o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod Gweinidogion Cymru neu mewn amgylchiadau y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddynt. | (ii) Firysau eraill - 6.0% | ||
(iii) Cyfuniad o firysau tatws Y, A a chrychni’r dail a firysau eraill - 6.0% | |||
(iv) Pydredd du’r coesyn - 4.0% | |||
(v) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.5% |
Rheoliad 9
1. Pan geir cais am awdurdodiad a wnaed yn unol â rheoliad 9, rhaid i swyddog awdurdodedig—
(a)dyrannu i’r person sy’n gwneud y cais rif sydd i’w alw’n “rhif adnabod y cynhyrchydd” (pan na fo un eisoes yn bod ar gyfer person hwnnw);
(b)cynnal archwiliad swyddogol o’r tatws hadyd er mwyn penderfynu a yw gofynion yr Atodlen hon a Rhan 4 o Atodlen 3 wedi eu bodloni; ac
(c)yn ddarostyngedig i baragraff 3 a rheoliad 9, dyroddi awdurdodiad i farchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu.
2. Rhaid i awdurdodiad ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b)rhif adnabod y cynhyrchydd;
(c)swm y tatws hadyd y rhoddir awdurdod i’w marchnata;
(d)y cyfnod yr awdurdodir marchnata;
(e)dyddiad dyroddi’r awdurdodiad; ac
(f)enw arfaethedig amrywogaeth y tatws hadyd.
3. Ni chaiff swyddog awdurdodedig ddyroddi awdurdodiad onid yw wedi ei fodloni—
(a)bod y tatws hadyd o amrywogaeth y gwnaed cais ar ei chyfer o dan reoliad 4(1)(a) o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol ar gyfer derbyn yr amrywogaeth o dan sylw ar Restr Genedlaethol ac nad yw’r cais wedi ei dynnu’n ôl na’i benderfynu’n derfynol;
(b)nad yw’r tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu lle tyfwyd hwy yn dir a ddynodwyd o dan Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(20) fel tir a halogwyd gan Glefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc) neu o fewn parth diogelwch a ddynodwyd o dan y Gorchymyn hwnnw;
(c)bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu lle tyfwyd hwy yn dir nad yw wedi ei halogi gan rywogaeth Globodera sy’n heintio tatws;
(d)bod y tatws hadyd wedi eu cymryd o gnwd o datws hadyd sy’n rhydd rhag rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws, Synchytrium endobioticum (Schilb) Perc, Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al ssp Sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al) a Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al);
(e)nad yw nifer y planhigion sy’n tyfu yr effeithir arnynt gan bydredd du’r coesyn yn fwy na 4%;
(f)bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir o’r tatws hadyd, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn debygol o gynnwys—
(i)dim mwy na 0.5% yn ôl rhif o blanhigion sy’n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i’w hamrywogaeth a dim mwy na 0.2% yn ôl rhif o blanhigion sy’n tyfu sydd o amrywogaeth wahanol; a
(ii)dim mwy na 10% yn ôl rhif o blanhigion sy’n tyfu sy’n dangos symptomau, ac eithrio symptomau ysgafn, o glefydau firws difrifol sy’n gyffredin yn Ewrop (mae heintiau amryliw ysgafn sy’n peri bod deilen yn arddangos gwahanol liwiau ond nad yw’n peri anffurfio’r ddeilen i gael eu hanwybyddu); ac
(g)bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw’r tatws hadyd wedi eu heffeithio gan unrhyw un o’r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod na diffygion a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3.
Rheoliad 16
Rhywogaeth.
Amrywogaeth.
Categori.
Gwlad lle cynhyrchir a’r Awdurdod Ardystio.
Gwlad anfon.
Mewnforiwr.
Swm y tatws hadyd.
Rheoliad 17
Enw a chyfeiriad y gwerthwr.
Pwysau net (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol).
Rhywogaeth (ac eithrio tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig).
Amrywogaeth.
Categori.
Gradd (fel y bo’n briodol).
Maint (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol).
Rhif adnabod y cynhyrchydd neu (ac eithrio ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru) rif cyfeirnod lot yr had.
Manylion unrhyw driniaeth gemegol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy. 264)), sydd wedi eu diwygio ar sawl achlysur.
Mae’r Rheoliadau yn rheoli cynhyrchu gyda’r bwriad o farchnata, ardystio a marchnata tatws hadyd yng Nghymru, ac eithrio’r rheini a fwriedir ar gyfer eu hallforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Maent yn gweithredu amrywiol offerynnau Ewropeaidd, ac yn benodol Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.07.2002, t. 60).
Mae rheoliad 5 yn gwahardd marchnata unrhyw datws hadyd onid ydynt wedi cael eu hardystio naill ai fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig, neu onid ydynt wedi cael eu hawdurdodi i’w marchnata at ddibenion gwyddonol neu at waith dethol neu at ddibenion profi a threialu. Ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru rhaid i ardystio, gan gynnwys penderfynu ar y categori a’r radd y mae’n rhaid marchnata’r tatws ynddynt, ddigwydd yn unol â gofynion rheoliad 10.
Mae rheoliadau 8 a 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru awdurdodi marchnata symiau bach o datws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol a thatws hadyd at ddibenion profi a threialu.
Mae rheoliad 12 yn darparu mai mewn pecynnau neu gynwysyddion yn unig y caniateir marchnata tatws hadyd (ac eithrio manwerthiannau symiau bach o datws hadyd sy’n bodloni amodau rheoliad 18). Dim ond os ydynt wedi eu labelu a’u selio (rheoliadau 13 a 14), gyda’r labeli’n dwyn y manylion a bennir yn Atodlen 2, y caniateir marchnata tatws hadyd mewn pecynnau neu gynwysyddion (ac eithrio’r rheini yr awdurdodir eu marchnata at ddibenion gwyddonol neu waith dethol). Rhaid i ddogfennau sy’n mynd gyda thatws hadyd a gafodd eu haddasu’n enetig gynnwys cyfeiriad at y ffaith honno (rheoliad 15).
Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer cymryd samplau fel rhan o’r broses ardystio neu i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau’r Rheoliadau.
Mae rheoliad 21 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru archwilio tatws hadyd a’i gwneud yn ofynnol i datws hadyd a dogfennau perthnasol gael eu cyflwyno.
Mae rheoliad 22 yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu’n ôl labeli swyddogol neu ddogfennau swyddogol sy’n ymwneud â thatws hadyd y canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.
Mae mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau yn drosedd o dan adran 16(7)(b) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 (p. 14) sy’n dwyn atebolrwydd i ddirwy ar euogfarn ddiannod.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1964 p. 14; diwygiwyd adran 16(1), a mewnosodwyd adran 16(1A), gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi a diwygiwyd adran 16(3) gan O.S. 1977/1112. Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister” (“y Gweinidog”).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2001/3510; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/2949, 2009/1273, 2010/1195 a 2011/464.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1).
OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/724/EU (OJ Rhif L 312, 27.11.2010, t. 31). Cafodd y Cytundeb hwn, ynghyd â chwe Chytundeb arall gyda Chydffederasiwn y Swistir, ei gymeradwyo gan y Cyngor a’r Comisiwn drwy Benderfyniad y Cyngor a’r Comisiwn 2002/309/EC, Euratom (OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t. 1).
OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t. 13.
OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 32.
OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 39.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/367/EU (OJ Rhif L 178, 18.6.2014, t. 26).
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 (OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 1).
OJ Rhif L 362, 9.12.2004, t. 21.
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).
O.S. 2006/2929 (Cy. 264) a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/1063 (Cy. 112), 2009/2980 (Cy. 259) a 2010/1796 (Cy. 172).
O.S. 2006/1643 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1795 (Cy. 171); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2006/1643 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1795 (Cy. 171); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.