ATODLEN 4Graddio tatws hadyd

Rheoliad 2(3)

RHAN 1Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd cyn-sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o raddau’r Undeb a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.

Tabl 1

Colofn 1

Gradd yr Undeb

Colofn 2

Gofynion

Colofn 3

Goddefiannau

PBTC

(1) Rhaid i’r tatws hadyd—

Dim

(a) bod yn deillio o stoc cenhedlol neu gloron a brofwyd—

(i) sy’n rhydd o Pectobacterium spp., Dickeya spp., firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; a

(ii) a gyflenwyd gan ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, ac a dyfwyd ar uned lle nad oes deunydd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy’n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi eu profi sy’n dod o ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, wedi cael ei dyfu;

(b) bod wedi eu cadw rhag—

(i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys;

(ii) ysgub y gwrachod a phydredd du’r coesyn;

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math; a

(iv) sgrwff yn y pridd;

(c) wedi eu cynhyrchu (yn achos planhigion a chloron) drwy ficro-luosogi mewn cyfleuster gwarchodedig ac mewn cyfrwng tyfu sy’n rhydd rhag plâu; a

(d) (yn achos cloron) nad ydynt wedi eu lluosi y tu hwnt i’r cenhedliad cyntaf.

PB

(2) Rhaid i’r tatws hadyd fod yn deillio —

(a) o stoc cenhedlol neu gloron a brofwyd—

(i) a gyflenwyd gan ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, ac a dyfwyd ar uned lle nad oes deunydd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy’n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi eu profi sy’n dod o ffynhonnell sy’n dderbyniol gan Weinidogion Cymru, wedi cael ei dyfu; ac

(i) Pydredd du’r coesyn – dim

(ii) sy’n rhydd o Pectobacterium spp., Dickeya spp., firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys; neu

(ii) yn amrywio o’u math neu o amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd 0.01%

(b) o stoc a gafodd ei raddio fel gradd PB yr Undeb o genhedliad maes blaenorol yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu

(iii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - dim

(c) unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru Cymru.

(iv) Firysau amryliw eraill 0.1%

(3) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cadw rhag—

(i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni’r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys;

(ii) ysgub y gwrachod a phydredd du’r coesyn;

(iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math;

(iv) sgrwff yn y pridd;

(v0 planhigion o amrywogaeth wahanol.

(4) Pedwar yw uchafswm y cenedliadau maes.

RHAN 2Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o raddau’r Undeb a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.

Tabl 2

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gradd yr Undeb

Gofynion

Goddefiannau

S

(1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio—

(i) Gwyriadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth gwahanol gan gynnwys sgrwff yn y pridd – 0.1%

(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb o bedwar neu lai cenhedliad maes yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu

(b) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru.

(ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 0.02%

(2) Pump yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o radd gyn-sylfaenol.

(iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.2%

(iv) Pydredd du’r coesyn - 0.1%

SE

(1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio—

(i) Amrywiad mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.1%

(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb o bump neu lai cenhedliad maes yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu

(b) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru.

(ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 0.1%

(2) Chwech yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o ddosbarth cyn-sylfaenol neu ddosbarth sylfaenol.

(iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.5%

(iv) Pydredd du’r coesyn – 0.5%

E

(1) Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi deillio—

(i) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.1%

(a) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu

(b) o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu o stoc a raddiwyd yn radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb o chwe chenhedliad maes neu lai yn y flwyddyn cyn plannu’r cnwd; neu

(ii) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd -) 0.4%

(c) o unrhyw datws hadyd eraill yr hysbysodd Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen eu bod yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru.

(2) Saith yw uchafswm y cenedliadau maes, gan gynnwys cenedliadau blaenorol o radd gyn-sylfaenol neu radd sylfaenol.

(iii) Cyfanswm firysau gan gynnwys firysau amryliw eraill a firysau tatws Y, A a chrychni’r dail - 0.8%

(iv) Pydredd du’r coesyn – 1.0%

RHAN 3Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd ardystiedig

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion paragraff 1(b) o Atodlen 1, pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig, caiff y swyddog hwnnw eu graddio fel tatws hadyd o unrhyw un o’r graddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 pan fo’r swyddog hwnnw wedi ei fodloni yn sgil arolygiad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y radd honno wedi eu bodloni ac nad aed dros y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 mewn cysylltiad â’r tatws hadyd hynny.

Tabl 3

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Gradd yr Undeb

Gofynion

Goddefiannau

A

Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu—

(a) yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd A yr Undeb cenhedliad maes wyth; neu

(i) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd – 2.0%

(b) o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod Gweinidogion Cymru neu mewn amgylchiadau y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddynt.

(ii) Firysau eraill - 2.0%

(iii) Cyfuniad o firysau tatws Y, A a chrychni’r dail a firysau eraill - 2.0%

(iv) Pydredd du’r coesyn - 2.0%

(v) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.2%

B

Rhaid i’r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu—

(a) yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd A yr Undeb cenhedliad maes wyth neu datws hadyd ardystiedig a raddiwyd yn radd B yr Undeb cenhedliad maes wyth; neu

(i) Firysau tatws Y, A a chrychni’r dail naill ai’n unigol neu ar y cyd - 6.0%

(b) o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod Gweinidogion Cymru neu mewn amgylchiadau y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddynt.

(ii) Firysau eraill - 6.0%

(iii) Cyfuniad o firysau tatws Y, A a chrychni’r dail a firysau eraill - 6.0%

(iv) Pydredd du’r coesyn - 4.0%

(v) Amrywiadau mewn amrywogaeth a math neu amrywogaeth wahanol, gan gynnwys sgrwff yn y pridd - 0.5%