Selio pecynnau a chynwysyddion14.
(1)
Yn ddarostyngedig i reoliad 18, ni chaiff unrhyw berson farchnata, ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio’n briodol—
(a)
tatws hadyd cyn-sylfaenol;
(b)
tatws hadyd sylfaenol;
(c)
tatws hadyd ardystiedig; neu
(d)
tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu.
(2)
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio’n briodol” (“properly sealed package or container”)—
(a)
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, yw pecyn neu gynhwysydd caeedig sydd wedi cael ei selio â dyfais selio nas torrwyd, gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth;
(b)
ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw pecyn neu gynhwysydd caeedig sydd wedi cael ei selio yn unol ag Erthygl 11(1) o’r Gyfarwyddeb.
(3)
Pan fo dyfais selio ar becyn neu gynhwysydd wedi ei thorri, rhaid peidio ag ail selio’r pecyn neu’r cynhwysydd â dyfais selio ac eithrio gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth.
(4)
At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dyfais selio” (“sealing device”) yw dyfais a gymhwyswyd i’r pecyn neu’r cynhwysydd yn y fath fodd fel y bydd yn cael ei thorri pan agorir y pecyn neu’r cynhwysydd.