Samplu tatws hadyd19

1

Rhaid i sampl o datws hadyd a gymerir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn gael ei chymryd yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Rhaid i sampl gael ei chymryd gan swyddog awdurdodedig a chaiff fod o’r swmp neu’r nifer a bod o’r rhan honno neu’r rhannau hynny o’r cnwd sy’n tyfu neu sydd wedi ei gynaeafu ag sy’n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.

3

Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo sampl yn ofynnol ac eithrio at ddiben mewn cysylltiad ag ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, a bod crynswth y tatws hadyd yn datws hadyd—

a

sy’n ffurfio mwy nag un llwyth, neu

b

sy’n gysylltiedig â mwy nag un dystysgrif cnwd sy’n tyfu,

4

Rhaid rhannu’r tatws hadyd fel bod pob llwyth neu, yn ôl y digwydd, swmp y tatws sy’n gysylltiedig â phob tystysgrif cnwd sy’n tyfu yn ffurfio lot ar wahân a rhaid, os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, samplu pob lot ar wahân.