Marchnata tatws hadyd5

1

Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio—

a

tatws hadyd cyn-sylfaenol;

b

tatws hadyd sylfaenol;

c

tatws hadyd ardystiedig;

d

tatws hadyd gwyddonol a rhai i’w dethol; neu

e

tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu.

2

Ni chaiff unrhyw berson farchnata unrhyw datws hadyd a gafodd eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel triniaeth i lesteirio eginiad.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “tatws hadyd gwyddonol a rhai i’w dethol” (“scientific and selection seed potatoes”) yw—

a

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, tatws hadyd yr awdurdododd Gweinidogion Cymru eu marchnata yn unol â rheoliad 8;

b

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd yr awdurdododd yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws eu marchnata yn unol ag Erthygl 6(1)(a) o’r Gyfarwyddeb.