xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1096 (Cy. 260)

Cyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016

Gwnaed

15 Tachwedd 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Tachwedd 2016

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i wneud y Gorchymyn hwn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2016.

Dynodiadau

2.  Mae corff sydd wedi ei restru yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru(2).

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2016

Erthygl 2

YR ATODLENCyrff Dynodedig

Byrddau Iechyd Lleol (fel y’u sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3))

Career Choices Dewis Gyrfa Ltd

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru at ddiben cynnwys o fewn cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32. Ychwanegwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25).

(2)

Yn rhinwedd adran 124(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Gweinidogion Cymru yn “relevant person” at ddibenion adran 126A o’r Ddeddf honno.