xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
2 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a)adran 38(3) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b)adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) at bob diben sy’n weddill.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Awst 2016—
(a)adran 38(1) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b)adran 40 (cyhoeddi etc hysbysiad) at bob diben sy’n weddill.
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Medi 2016—
(a)adran 27(1) (dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi cod) at bob diben sy’n weddill;
(b)adran 27(5) a (6) at bob diben; ac
(c)adran 30 (y weithdrefn os cymeradwyir cod drafft gan Weinidogion Cymru) at bob diben.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 38(3) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 38(3) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 38(2)(b). Mae adran 38(3) yn darparu y caiff rheoliadau o dan adran 38(2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44 o Ddeddf 2015.
Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn adran 52(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. O dan adran 52(1), rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd (fel y’u disgrifir yn adran 52(5)).
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 38(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Awst 2016. Mae adran 38(1) yn darparu, os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3) o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan adran 38 i gorff llywodraethu’r sefydliad.
Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn adran 40 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Awst 2016. Mae adran 40(1) yn darparu, os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad.
Mae erthygl 4 yn dwyn adran 27(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(1) yn darparu bod rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig.
Mae erthygl 4 hefyd yn dwyn adrannau 27(5) a (6) a 30 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(5) yn darparu y caiff CCAUC gyhoeddi’r cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef. O dan adran 27(6), rhaid i CCAUC adolygu’r cod yn gyson a llunio a chyhoeddi cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef. Cyn cyhoeddi’r cod cyntaf neu god diwygiedig, rhaid i CCAUC lunio drafft o’r cod a chyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 30 o Ddeddf 2015 yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r cod a gyflwynir iddynt, fod rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”). Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft. Os na chaiff penderfyniad ei basio gan y Cynulliad o fewn y cyfnod o 40 niwrnod, rhaid i CCAUC gyhoeddi’r cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2(1) i (3) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 2(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 3(1) i (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 3(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 4(1) a (2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 4(3) a (4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 4(5) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(1) a (2)(a) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(2)(b) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(2)(c) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(3) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(4) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 5(5) i (9) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 6(1) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 6(2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 6(3) i (6) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 6(7) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 7(1) a (2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 7(3) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 7(4) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 7(5) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 7(6) a (7) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adrannau 8 a 9 | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 10 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 11(1) i (4) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 11(5) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 11(6) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 12 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 14 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 15(1)(a) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 16 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 17(1) i (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 17(4)(a) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 17(4)(b) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adrannau 18 i 25 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 27(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio cod) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 27(2), (3), (7) ac (8) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 27(9) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adrannau 28 a 29 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 37(7) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 38(2) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 39(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 40(2) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 41(1)(a) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 41(1)(b), (d) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 42(1) a (2)(a) i (c) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 42(2)(d) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 42(3) a (4) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 43(a) a (b) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 43(c) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 44(1) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 44(3) a (4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adrannau 45 a 46 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adrannau 47 i 49 | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 51(1)(a), (e) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio datganiad) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), (c) a (d)) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 52(2) a (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 52(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 52(5) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 53 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 54(1) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 54(3) a (4) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 58(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraff 1 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2), paragraff 2 a pharagraffau 7 i 26 o’r Atodlen | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 27, 28(a) i (f) a pharagraff 29 o’r Atodlen | 1 Awst 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 28(g) a 30 o’r Atodlen | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 31 o’r Atodlen) a pharagraff 31 o’r Atodlen | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |