xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb (EU) 2015/2203 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau sy’n ymwneud â chaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC (OJ Rhif L 314, 1.12.2015, t 1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985 (O.S. 1985/2026) a Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Diwygio) 1989 (O.S. 1989/2321) o ran Cymru.
Nid yw’r Rheoliadau hyn ond yn gymwys i gynhyrchion casein wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl (rheoliad 3).
Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhagnodi diffiniadau a safonau ar gyfer cynhyrchion casein penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 i 3);
(b)yn gwahardd defnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw’n cydymffurfio â safonau neilltuol (rheoliad 4 ac Atodlen 4);
(c)yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, yn gwahardd labelu neu hysbysebu bwyd ag enwau cynhyrchion casein os nad yw’r bwyd yn gynnyrch casein neu’n cynnwys cynnyrch casein (rheoliad 5);
(d)yn gosod gofynion ychwanegol o ran labelu cynhyrchion casein (rheoliad 6);
(e)yn gosod rhwymedigaeth ar bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i orfodi’r Rheoliadau yn ei ardal (rheoliad 7);
(f)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16). Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â rheoliadau 4, 5 neu 6 o’r Rheoliadau hyn yn ofynnol. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd (rheoliad 8).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.