Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf8.
(1)
Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 5 at ddibenion—
(a)
galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau rheoliadau 4, 5, neu 6; a
(b)
gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn drosedd.
(2)
Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 5 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3)
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn lleihau effaith cymhwyso’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).