2016 Rhif 1136 (Cy. 274)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19471ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 19722fel y’u cymhwysir gan adran 16(3)3 o’r Ddeddf honno, ac a freinir bellach ynddynt hwy4, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2016 ond mae erthygl 2(2) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 20065.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19922

1

Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19926 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)7

a

ym mharagraff (1) yn lle “A regular firefighter shall” rhodder “Subject to paragraph (1B), a regular firefighter shall”; a

b

cyn paragraff (2) mewnosoder—

1B

Paragraph (1) does not apply to a firefighter below the age of 50 who has reckoned 30 years or more pensionable service.

3

Yn rheol LA1(3) (sefydlu, cynnal a gweithredu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân, etc.)8

a

ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; and”; a

b

ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

e

sums payable under article 3 of the Firefighters’ Pension (Wales) Scheme (Amendment and Transitional Provisions) Order 2016.

Darpariaeth drosiannol3

1

Rhaid i awdurdod tân ac achub dalu’r swm gofynnol fel y’i disgrifir ym mharagraff (3) i ddiffoddwr tân sy’n dod o fewn paragraff (2).

2

Mae diffoddwr tân yn dod o fewn y paragraff hwn os talodd y diffoddwr tân gyfraniadau pensiwn yn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2006 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2016 yn unol â rheol G2(1) o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) nad oeddynt yn daladwy o ganlyniad i erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn.

3

Y swm gofynnol yw cyfandaliad sy’n hafal i (A+B)×Cmath, pan—
  • A yw cyfanswm pob cyfraniad a dalwyd net unrhyw dreth a fyddai’n daladwy gan y diffoddwr tân pe na bai’r cyfraniad wedi ei dalu;

  • B yw’r llog ar A a gyfrifir yn unol â pharagraff (4); ac

  • C yw 100/60.

4

O ran llog—

a

rhaid ei gyfrifo ar wahân mewn perthynas â phob cyfraniad a delir; a

b

rhaid ei gymhwyso’n adlog ar sail y gyfradd log flaenorol o ddydd i ddydd ar gyfer y cyfnod a bennir ym mharagraff (5).

5

Mae’r cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (4)(b) yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis y talwyd pob cyfraniad ynddo ac mae’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y telir y cyfanswm gofynnol ynddo.

6

Pan fo taliad yn ofynnol o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â diffoddwr tân a fu farw cyn 31 Rhagfyr 2016 neu sy’n marw ar y dyddiad hwnnw neu wedyn ond cyn i’r taliad gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod tân ac achub dalu’r swm dyledus i gynrychiolwyr personol y diffoddwr tân.

7

At ddibenion yr erthygl hon—

  • mae i “awdurdod tân ac achub” yr un ystyr a roddir i “fire and rescue authority” yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 20049;

  • “cyfradd log flaenorol” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys ar bob diwrnod o’r cyfnod a bennir ym mharagraff (5); ac

  • ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—

    1. a

      y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu

    2. b

      pan fo gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 199810, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.

Carl SargeantYsgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru) (“y Cynllun”).

Mae erthygl 2(2) yn dileu’r rhwymedigaeth ar ddiffoddwyr tân i dalu cyfraniadau ar gyfer y cyfnod ar ôl iddynt ennill yr hawlogaeth pensiwn mwyaf a ganiateir nes iddynt gyrraedd 50 oed, yr oedran isaf ar gyfer tynnu allan fuddion. Mae’r newid yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006. Mae adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 yn caniatáu i ddarpariaethau gael effaith ôl-weithredol.

Mae erthyglau 2(3) a 3 yn darparu bod unrhyw gyfraniadau o’r fath a dalwyd rhwng 1 Rhagfyr 2006 a’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym yn cael eu had-dalu. Mae’r fformiwla a nodir yn erthygl 3 yn ystyried llog a hefyd godiad sy’n adlewyrchu’r dreth a fydd yn daladwy o dan Ddeddf Cyllid 2004. O dan erthygl 2(3) gwneir taliadau o’r Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân berthnasol y mae’n ofynnol i bob awdurdod tân ac achub ei sefydlu a’i chynnal at ddibenion y Cynllun.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.