Offerynnau Statudol Cymru
2016 Rhif 1158 (Cy. 279)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016
Gwnaed
25 Tachwedd 2016
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1) wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2), adroddiad dyddiedig 31 Mawrth 2016 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a’i gynigion ar gyfer eu newid.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru(3).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017(5).
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r saith map a farciwyd “Map Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, ac a labelwyd “A” i “G” ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y llythyren honno; a
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol
3. Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
Aberafan – creu cymuned newydd Rhos Baglan
4. Mae cymuned newydd Rhos Baglan wedi ei chreu ac—
(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Aberafan.
Baglan a Llansawel – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
5.—(1) Mae’r rhan o gymuned Baglan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llansawel; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llansawel.
(2) Mae’r rhan o gymuned Llansawel a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap B—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Baglan; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Baglan.
Cwmafan a Phort Talbot – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
6. Mae’r rhan o gymuned Cwmafan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Port Talbot; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Port Talbot.
Port Talbot a Thai-bach – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
7. Mae’r rhan o gymuned Port Talbot a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tai-bach; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tai-bach.
Dwyrain Sandfields a Gweunydd Margam – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
8. Mae’r rhan o gymuned Dwyrain Sandfields a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Gweunydd Margam; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gweunydd Margam.
Blaendulais ac Onllwyn – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
9. Mae’r rhan o gymuned Blaendulais a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Onllwyn; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Onllwyn.
Tai-bach a Margam – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
10.—(1) Mae’r rhan o gymuned Tai-bach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Margam; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Margam.
(2) Mae’r rhan o gymuned Margam a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap G—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tai-bach; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tai-bach.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny heb eu haddasu. Ym mis Mawrth 2016, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau cymunedol presennol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i ffiniau cymunedol y cymunedau a ganlyn: Baglan, Llansawel, Cwmafan, Port Talbot, Tai-bach, Dwyrain Sandfields, Gweunydd Margam, Blaendulais, Onllwyn a Margam.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn creu’r gymuned newydd Rhos Baglan o fewn cymuned presennol Aberafan.
Mae newidiadau canlyniadol wedi eu gwneud i’r adrannau etholiadol o fewn cymunedau Baglan, Llansawel, Cwmafan, Port Talbot, Tai-bach, Dwyrain Sandfields, Gweunydd Margam, Blaendulais, Onllwyn a Margam.
Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i G y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).
Enw blaenorol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) oedd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. O dan Ddeddf 2013, parhaodd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru mewn bodolaeth ond fe’i hailenwyd yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2). Gweler troednodyn (2) isod am ddarpariaethau arbed yn Neddf 2013 sy’n gymwys i Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 53 i 61 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi ond, yn unol ag adran 74(1) a (2) o Ddeddf 2013, mae’n parhau mewn effaith at ddiben cwblhau adolygiadau a oedd yn cael eu cynnal pan ddaeth Rhan 3 o Ddeddf 2013 i rym ar 30 Medi 2013 ac at ddiben cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno. Diwygiwyd adran 74(2) o Ddeddf 2013 gan adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) i ganiatáu i adolygiadau a gwblhawyd cyn 30 Medi 2013 gael eu gweithredu o dan Ddeddf 1972.
Mae adran 58(2) o Ddeddf 1972 yn darparu na chaniateir gwneud gorchymyn sy’n rhoi effaith i unrhyw gynigion a wneir i Weinidogion Cymru gan y Comisiwn tan fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y cyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd Deddf 1972 gan Orchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3033 (Cy. 302)) drwy symud y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn ôl un flwyddyn o 2016 i 2017.