xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 118 (Cy. 55)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Mangreoedd etc. Difwg (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

2 Chwefror 2016

Yn dod i rym

4 Chwefror 2016

Mae Geinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1), (2), (6) a 79(3) o Ddeddf Iechyd 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, y gosodwyd drafft ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 79(4) o’r Ddeddf honno(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 3 (esemptiadau i fangreoedd di-fwg), mewnosoder y rheoliad canlynol —

3A.    Esemptiad dros dro i garchardai

(1) Nid yw ystafell ddynodedig a ddefnyddir fel llety mewn carchar ar gyfer personau sy’n 18 oed neu drosodd yn ddi-fwg.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ystafell ddynodedig” yw cell—

(a)a gafodd ei dynodi’n ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y carchar yn ystafell lle y caniateir ysmygu;

(b)y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd;

(c)nad oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran arall o’r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig eraill); a

(ch)sydd wedi ei marcio’n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

(3) Bydd paragraffau (1) a (2) yn peidio â chael effaith ar 5 Ebrill 2017..

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Chwefror 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a wneir o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006, yn mewnosod rheoliad 3A newydd yn Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 i esemptio tan 5 Ebrill 2017 ystafelloedd dynodedig i oedolion mewn carchardai yng Nghymru o’r gofynion di-fwg yn adran 2 o Ddeddf Iechyd 2006.

Mae paragraff (2) o reoliad 3A newydd yn darparu bod “ystafell ddynodedig” yn gell a gafodd ei dynodi’n ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y carchar, sy’n hollol gaeedig, nad oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran arall o’r fangre, ac sydd wedi ei marcio’n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Tybaco yn Is-adran Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 28. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr “awdurdod cenedlaethol priodol” o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).

(2)

Mae adran 79(4) o Ddeddf Iechyd 2006 yn darparu na chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud offeryn o dan adran 3(1) o’r un Ddeddf oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan, ddau Dŷ’r Senedd. Mae paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod y gofyniad yn adran 79(4) o Ddeddf Iechyd 2006 yn gymwys i offerynnau a wneir gan Weinidogion Cymru fel pe bai’r cyfeiriad at ddau Dŷ’r Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.