RHAN 1Cyffredinol
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.
(2)
Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;
ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —
(a)
awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)
corff llywodraethu ysgol;
(c)
sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
(d)
corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
RHAN 2GWEITHWYR IEUENCTID
Gweithwyr ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill3.
(1)
Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2)
Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
Gweithwyr ieuenctid: y gofyniad i gofrestru4.
(1)
Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.
(2)
Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 3GWEITHWYR CYMORTH IEUENCTID
Gweithwyr cymorth ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill5.
(1)
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2)
Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
Gweithwyr cymorth ieuenctid: y gofyniad i gofrestru6.
(1)
Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 4YMARFERWYR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Y gofyniad i gofrestru7.
(1)
Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 5DIWYGIADAU I DDEDDF 2014
Diwygiadau i Ddeddf 20148.
(1)
Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).
(2)
“Gweithiwr ieuenctid
Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—
- (a)
yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu
- (b)
fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.
Gweithiwr cymorth ieuenctid
Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–
- (a)
yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu
- (b)
fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.”
(3)
“3.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
(a)
ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
(b)
er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
(a)
a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
(b)
syʼn hybu—
- (i)
datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
- (ii)
ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
(a)
cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
(b)
asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;
ystyr “ysgol” (“school”) yw—
- (a)
ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
- (b)
ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.”