Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016
2016 No. 1183 (Cy. 288)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141, a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft oʼr Gorchymyn hwn hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.