Offerynnau Statudol Cymru

2016 No. 1183 (Cy. 288)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Gwnaed

7 Rhagfyr 2016

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft oʼr Gorchymyn hwn hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.

(2Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yw corff y darperir adnoddau ariannol iddo yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) mewn cysylltiad â darparu dysgu seiliedig ar waith;

ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —

(a)

awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)

corff llywodraethu ysgol;

(c)

sefydliad addysg bellach yng Nghymru;

(d)

corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(3).

RHAN 2GWEITHWYR IEUENCTID

Gweithwyr ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill

3.—(1Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(2Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.

Gweithwyr ieuenctid: y gofyniad i gofrestru

4.—(1Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 3GWEITHWYR CYMORTH IEUENCTID

Gweithwyr cymorth ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill

5.—(1Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(2Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.

Gweithwyr cymorth ieuenctid: y gofyniad i gofrestru

6.—(1Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 4YMARFERWYR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH

Y gofyniad i gofrestru

7.—(1Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 5DIWYGIADAU I DDEDDF 2014

Diwygiadau i Ddeddf 2014

8.—(1Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).

(2Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—

Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

(a)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(b)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

(c)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(d)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waithPerson syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

(3Yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—

(a)

ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

(b)

er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

(a)

a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

(b)

syʼn hybu—

(i)

datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

(ii)

ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

(a)

cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

(b)

asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)

ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Julie James

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2016

erthygl 3

ATODLEN 1Gweithwyr Ieuenctid

RHAN 1Cymwysterau

Cymwysterau gweithiwr ieuenctid

1.  Nodir y cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn y Rhan hon fel a ganlyn—

(a)mae Tabl 1 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Nghymru;

(b)mae Tabl 2 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr;

(c)mae Tabl 3 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn yr Alban;

(d)mae Tabl 4 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Ngogledd Iwerddon;

(e)mae Tabl 5 yn nodi cymwysterau a ddyfernir yn y Deyrnas Unedig gan gyrff dyfarnu eraill.

Tabl 1: Cymru
Cymwysterau o ran CymruCorff dyfarnu
Diploma addysg uwch mewn addysg gymunedolPrifysgol Metropolitan Caerdydd
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymunedolPrifysgol Glyndŵr
Diploma ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Glyndŵr

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Diploma ôl-raddedig mewn proffesiynau cymunedol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Gradd israddedig mewn addysg gymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Glyndŵr

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (cyfiawnder ieuenctid)

Prifysgol De Cymru

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (chwaraeon)

Prifysgol De Cymru

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Gradd ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

Gradd ôl-raddedig yn y proffesiynau cymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Tabl 2: Lloegr
Cymwysterau o ran LloegrCorff dyfarnu
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymuned

Bristol Polytechnic

John Moores University

University of the West of England

Diploma graddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

St Martin’s College

Diploma graddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid

Oasis College

Oasis Trust

Diploma graddedig mewn gwaith datblygu ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

St Martin’s College

Diploma graddedig mewn gwaith ieuenctidSheffield Hallam University
Diploma mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctidUniversity of Manchester
Diploma ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid

Goldsmiths College, University of London

Turning Point College

Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol)University of Huddersfield
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol

De Montfort University

Manchester Metropolitan University

Leicester Polytechnic

Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

Bradford College

Brunel University

College of St Mark & St John Plymouth

Leeds Beckett University

Leeds Metropolitan University

Manchester Metropolitan University

University College Birmingham

University College Plymouth, St Mark & St John

University of Cumbria

University of East London

University of St Mark & St John

Diploma ôl-raddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol)Moorlands College
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

University of Gloucestershire

University of Teesside

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Bradford College

Brunel University

Leeds Beckett University

Leeds Metropolitan University

Newman University

Manchester Metropolitan University

St Martin’s College

University College Birmingham

University of Cumbria

University of East London

University of St Mark & St John

College of St Mark & St John Plymouth

University College Plymouth, St Mark & St John

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedolUniversity of Teesside
Gradd israddedig mewn astudiaethau cymunedol ac ieuenctid

Bulmershe College of Higher Education

University of Reading

Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctidUniversity of Durham
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid cymhwysol

University of Derby

University of Manchester

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedolSunderland University
Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid

University of Cumbria

St Martin’s College

Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

University of Sunderland

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctidRuskin College, Oxford
Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

De Montfort University

Leicester Polytechnic

Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth, gwaith ieuenctid a gweinidogaethNazarene Theological College
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol)Moorlands College
Gradd israddedig mewn gwaith a chymorth ieuenctid integredigMiddlesex University
Gradd israddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid

Oasis College

Oasis Trust

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid

Brunel University

Coventry University

London Metropolitan University

Middlesex University

University of Brighton

University of Chester

University of Cumbria

University of Gloucestershire

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid CristnogolUniversity of Chester
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith ieuenctid a chymunedolSunderland University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Anglia Polytechnic University

Anglia Ruskin University

Bradford College

Brunel University

Leeds Metropolitan University

Manchester Metropolitan University

Ruskin College, Oxford

Sheffield Hallam University

St Helens College

St Martin’s College

Thames Polytechnic

University College Plymouth, St Mark & St John

University of Bedfordshire

University of Bolton

University of Chichester

University of Cumbria

University of East London

University of Greenwich

University of Huddersfield

University of St Mark & St John

University of Worcester

York St John University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda llwybrau Cristnogol, Mwslimaidd a seciwlarNewman University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol

De Montfort University

Leeds Beckett University

Leeds Metropolitan University

University of Cumbria

University of Hull

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymunedolUniversity of Teesside
Gradd israddedig mewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedolUniversity of Worcester
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau (gwaith ieuenctid)University of Derby
Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctidGoldsmiths College, University of London
Gradd ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctidGoldsmiths College, University of London
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol)University of Huddersfield
Gradd ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedolDe Montfort University
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

University of Gloucestershire

University of Teesside

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

College of St Mark & St John

Edgehill University

Liverpool Hope University

University College Plymouth, St Mark & St John

Newman University

University of Durham

University of Hull

University of Northampton

University of St Mark & St John

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedolUniversity of Teesside
Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedolBrunel University
Tabl 3: yr Alban
Cymwysterau o ran yr AlbanCorff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol

Northern College of Education

Moray House Institute of Education

University of Aberdeen

University of Edinburgh

Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol

Northern College of Education

University of Aberdeen

University of Dundee

University of Glasgow

Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol gyda diwinyddiaeth gymhwysolInternational Christian College
Diploma mewn addysg gymunedol

Moray House Institute of Education

University of Edinburgh

Diploma mewn addysg oedolion ac addysg barhausUniversity of Glasgow
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol

Jordanhill College of Education

Northern College of Education

Moray House Institute of Education

University of Aberdeen

University of Edinburgh

West of Scotland University

University of Strathclyde

Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedolUniversity of Dundee
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedolUniversity of Glasgow
Gradd israddedig mewn dysgu a chyfranogi cymunedolWest of Scotland University
Gradd israddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol

University of Glasgow

Northern College of Education

University of Aberdeen

University of Dundee

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctidEdinburgh Napier University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid gyda diwinyddiaeth gymhwysolInternational Christian College
Gradd ôl-raddedig mewn addysg gymunedol

Moray House Institute of Education

University of Edinburgh

Gradd ôl-raddedig mewn addysg oedolion ac addysg barhausUniversity of Glasgow
Tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gymunedol

Jordanhill College of Education

Moray House Institute of Education

Northern College of Education

University of Aberdeen

University of Edinburgh

University of Strathclyde

West of Scotland University

Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

Jordanhill College of Education

Moray House Institute of Education

University of Edinburgh

University of Strathclyde

Tabl 4: Gogledd Iwerddon
Cymwysterau o ran Gogledd IwerddonCorff dyfarnu
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedolUniversity of Ulster
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedolUniversity of Ulster
Tabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig
CymwysterauCorff dyfarnu
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiolYMCA George Williams College
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol (gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol)YMCA George Williams College
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctidOpen University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedolInstitute for Children Youth and Mission
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol

Centre for Youth Ministry

Institute for Children Youth and Mission

Gradd israddedig mewn gwaith ysgolion, ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferolInstitute for Children, Youth and Mission
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc/gwaith ieuenctidOpen University
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedolYMCA George Williams College
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedolYMCA George Williams College

RHAN 2Gofynion Eraill

Gofynion eraill

2.  Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—

(a)os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982(4) (gweler rheoliad 13), neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).

erthygl 5

ATODLEN 2Gweithwyr Cymorth Ieuenctid

RHAN 1Cymwysterau

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “CCEA” (“CCEA”) yw Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon y parheir â’i fodolaeth drwy erthygl 73 o Orchymyn 1998;

ystyr “Cymwysterau Cymru” (“Qualifications Wales”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Deddf 2015;

ystyr “Deddf (Yr Alban) 1996” (“the 1996 (Scotland) Act”) yw Deddf Addysg (Yr Alban) 1996(5);

ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(6);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015(7);

ystyr “Gorchymyn 1998” (“the 1998 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998(8);

ystyr “Ofqual” (“Ofqual”) yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf 2009;

ystyr “SQA” (“SQA”) yw Awdurdod Cymwysterau’r Alban a sefydlwyd o dan adran 1 Deddf (Yr Alban) 1996.

Cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid

2.  Mae paragraffau 2 i 5 yn nodi’r cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid.

Cymru

3.—(1Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2Y cymwysterau yw—

(a)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(b)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(c)tystysgrif Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(d)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid.

Lloegr

4.—(1Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf 2009 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2Y cymwysterau yw—

(a)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;

(b)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(c)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;

(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(e)dyfarniad Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;

(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;

(h)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(i)dyfarniad Lefel 4 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf.

Yr Alban

5.—(1Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan yr SQA, neu unrhyw gorff a gymeradwyir gan yr SQA o dan adran 2(1) o Ddeddf (yr Alban) 1996 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2Y cymwysterau yw—

(a)SVQ 2 mewn gwaith ieuenctid;

(b)SVQ 3 mewn gwaith ieuenctid;

(c)SVQ 3 mewn cyfiawnder ieuenctid.

Gogledd Iwerddon

6.—(1Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan y CCEA, neu unrhyw gorff a gydnabyddir gan y CCEA o dan Ran 8 o Orchymyn 1998 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2Y cymwysterau yw—

(a)dyfarniad Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(b)dyfarniad Lefel 2 mewn deall rôl y cyngor ieuenctid;

(c)tystysgrif Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(e)diploma Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig;

(h)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithwyr cefnogi cymheiriaid - theori ac ymarfer.

RHAN 2Gofynion Eraill

7.  Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—

(a)os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Gorchymyn)

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau iʼr Cyngor mewn perthynas â phersonau y maeʼn ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“y Gofrestr”).

Maeʼr categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer ym mharagraff 2 oʼr Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, maeʼr Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i ychwaneguʼr categorïau a ganlyn o berson cofrestredig (Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn)—

(a)gweithiwr ieuenctid;

(b)gweithiwr cymorth ieuenctid; ac

(c)ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

Effaith Rhan 2 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 2 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn) (erthygl 3(1)).

Mae erthygl 3(2) yn nodi eithriad iʼr cyfyngiad yn erthygl 3(1); maeʼr eithriad hwnnw yn gymwys pan fo person yn symud iʼr DU o aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweithio fel gweithiwr ieuenctid ar sail dros dro ac achlysurol. Nid ywʼr person hwnnw yn ddarostyngedig iʼr gofyniad i gofrestru (“yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE”). Maeʼr ddarpariaeth hon yn sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2 o Reoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.

Effaith Rhan 3 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 3 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol. Mae erthygl 5(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 5(1).

Effaith Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gorfodol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, fel bod rhaid i unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn), gofrestru âʼr Cyngor (erthygl 7(1)). Nid oes darpariaeth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestruʼn wirfoddol.

Maeʼr tabl diwygiedig ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 yn disgrifio ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel person syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith. Corff dysgu seiliedig ar waith yw corff a gyllidir gan Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith. Gellir gweld rhestr o gyrff oʼr fath ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.dysgu.llyw.cymru.

Maeʼr disgrifiad o ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys nifer o rolau proffesiynol syʼn ymwneud â chyflenwi dysgu seiliedig ar waith. O fewn y proffesiwn, adwaenir y rolau hyn yn aml fel “mentoriaid”, “hyfforddwyr” ac “aseswyr”. Mae erthygl 7(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 7(1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.