erthygl 5
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “CCEA” (“CCEA”) yw Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon y parheir â’i fodolaeth drwy erthygl 73 o Orchymyn 1998;
ystyr “Cymwysterau Cymru” (“Qualifications Wales”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Deddf 2015;
ystyr “Deddf (Yr Alban) 1996” (“the 1996 (Scotland) Act”) yw Deddf Addysg (Yr Alban) 1996(1);
ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(2);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015(3);
ystyr “Gorchymyn 1998” (“the 1998 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998(4);
ystyr “Ofqual” (“Ofqual”) yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf 2009;
ystyr “SQA” (“SQA”) yw Awdurdod Cymwysterau’r Alban a sefydlwyd o dan adran 1 Deddf (Yr Alban) 1996.
2. Mae paragraffau 2 i 5 yn nodi’r cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid.
3.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid.
4.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf 2009 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(b)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e)dyfarniad Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(h)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(i)dyfarniad Lefel 4 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf.
5.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan yr SQA, neu unrhyw gorff a gymeradwyir gan yr SQA o dan adran 2(1) o Ddeddf (yr Alban) 1996 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)SVQ 2 mewn gwaith ieuenctid;
(b)SVQ 3 mewn gwaith ieuenctid;
(c)SVQ 3 mewn cyfiawnder ieuenctid.
6.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan y CCEA, neu unrhyw gorff a gydnabyddir gan y CCEA o dan Ran 8 o Orchymyn 1998 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)dyfarniad Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b)dyfarniad Lefel 2 mewn deall rôl y cyngor ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e)diploma Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig;
(h)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithwyr cefnogi cymheiriaid - theori ac ymarfer.
7. Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—
(a)os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu
(b)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).