NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) i gynnal arolwg, drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac ymgeiswyr sydd wedi sefyll i gael eu hethol yn gynghorwyr i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol neu i gyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol. Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) ac mae’n darparu bod rhaid cynnal yr arolwg cyn neu ar ôl pob etholiad cyffredin ac i dynnu’r gofyniad i awdurdodau lleol wneud trefniadau i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw.

Mae Rheoliadau 2012 yn rhagnodi’r cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn. Mae rheoliadau 3 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2012 ac yn mewnosod arolwg newydd yn Rheoliadau 2012. Mae’r arolwg diwygiedig yn debyg i’r arolwg yn Rheoliadau 2012, gan ychwanegu cwestiynau unigryw sy’n cynnwys gwybodaeth adnabod y gellir eu defnyddio er mwyn canfod a oedd ymatebydd i’r arolwg wedi ei ethol yn gynghorydd. Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ofyn cwestiynau gwahanol yn dibynnu ar ba un ai cyn neu ar ôl etholiad cyffredin y cynhelir yr arolwg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.