Diwygio Rheoliadau 20074.

(1)

Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2)

Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

“ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”;

“ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;

“ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n radiograffydd cofrestredig, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol—

  1. (i)

    hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a

  2. (ii)

    nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;”.

(3)

Yn rheoliad 2(1)—

(a)

yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”)—

(i)

yn is-baragraff (dd) hepgorer “ac”;

(ii)

yn is-baragraff (e) yn lle “rhagnodydd annibynnol.” mewnosoder “rhagnodydd annibynnol; ac”;

(iii)

ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

“(f)

radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,”;

(b)

yn y diffiniad o “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder—

“(ia)

deietegwyr;”;

(c)

yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”)—

(i)

ar ôl “diagnostig neu therapiwtig,”, hepgorer “neu”; a

(ii)

ar ôl is-baragraff (a)(iv)(cc) mewnosoder—

“(chch)

deietegwyr, neu”.