xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Atodlen 2 (gofynion ardystio)

6.  Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 29 (safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant) rhodder—

29.  Caniateir marchnata’r canlynol fel hadau o safon wirfoddol uwch—

(a)troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, pan fo unrhyw un neu ragor o’r rhain wedi eu dosbarthu’n hadau ardystiedig (CS);

(b)maglys rhuddlas, a ddosbarthwyd naill ai’n hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf (CI) neu’n hadau ardystiedig o’r ail genhedlaeth (C2).