2016 Rhif 135 (Cy. 65)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 a pharagraffau 6B(1)(a) ac 13B(2) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20002, a chan adrannau 28(1), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3) a 120(2) o Ddeddf Addysg 20053, a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Medi 2016.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 20012.

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 20014, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

“(b)

ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20063.

Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20065 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)

yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

“(b)

ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”; a

(b)

yn rheoliad 14, yn lle paragraff (b) rhodder—

“(b)

ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”

Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 20064.

Yn rheoliad 4 o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 20066, yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1)

Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 20155.

Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)

yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2)(f), rhodder—

“(f)

yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 20 neu 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20108, y person hwnnw a Gweinidogion Cymru”; a

(b)

yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—

“(b)

ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”

Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

(b)

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,

(c)

Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a

(d)

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015,

er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales arolygu o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny (rheoliadau 2, 3 a 4).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Mae rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau 2015 yn cyfeirio at swyddogaethau cofrestru awdurdodau lleol yn adrannau 20 a 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”). Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r cyfeiriad hwnnw er mwyn iddo gyfeirio at swyddogaethau cofrestru Gweinidogion Cymru yn adrannau 20 neu 22 o Fesur 2010.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oed yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.