Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Chwefror 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff ond nid person sydd wedi ei benodi i gorff gan Weinidogion Cymru, un o Weinidogion y Goron neu Ei Mawrhydi (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;

ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.

(5Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

Safonau a bennir

2.—(1Yn Atodlen 1—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(2Yn Atodlen 2—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;

(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(3Yn Atodlen 3—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;

(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymardroddion.

(4Yn Atodlen 4—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(5Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;

(b)mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;

(c)mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;

(ch)mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol;

(dd)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.

Safonau sy’n benodol gymwys

3.—(1Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi(1) Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2.

(2Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i—

(a)Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—

(i)94 i 140,

(ii)145 i 148,

(iii)161 i 166;

(b)Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—

(i)1 i 93,

(ii)144,

(iii)149 i 160.

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

99 Chwefror 2016