Safonau a bennir2

1

Yn Atodlen 1—

a

mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

b

mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

c

mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

2

Yn Atodlen 2—

a

mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;

b

mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

3

Yn Atodlen 3—

a

mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;

b

mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

c

mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymardroddion.

4

Yn Atodlen 4—

a

mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

b

mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

5

Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—

a

mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;

b

mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;

c

mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;

ch

mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;

d

mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol;

dd

mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.