Search Legislation

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fo corff yn gohebu
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn
Safon 2:

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad A,

(b)

gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)

anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd
Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—

(a)

yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny;

(b)

yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny.

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)
Safon 4:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5:Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.
Safon 6:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau
Safon 8:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.
Safon 9:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 10:Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol).
Safon 11:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12:Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 13:Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.
Safon 14:Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 15:Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 16:Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 17:Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff
Safon 18:Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).
Safon 19:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 20:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff
Safon 21:Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 22:Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.
3Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall
Safon 23:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 24:Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.
Safon 24A:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
Safon 24B:Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 25:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 25A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 25CH:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 25D:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).
4Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 26:Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 27:Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 28:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)

os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 29:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 30:Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
5Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 31:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 32:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
6Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 33:Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
7Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 34:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 35:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
8Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau
Safon 36:Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg.
Safon 37:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)

agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymwneud â chyfarfodydd Bwrdd neu Gyngor;

(b)

agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd.

Safon 38:Rhaid i unrhyw drwydded, hawlen neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 39:Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg.
Safon 40:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)

polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;

(b)

canllawiau a chodau ymarfer;

(c)

papurau ymgynghori.

Safon 41:Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 42:Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.
Safon 43:

Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 44:Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 45:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.
9Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni
Safon 46:Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg.
Safon 46A:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.
Safon 46B:Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).
Safon 47:Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.
10Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 48:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 49:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 50:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 51:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 52:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 53:Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
11Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 54:Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 55:Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
12Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth
Safon 56:Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.
13Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff
Safon 57:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 58:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
Safon 59:Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
14Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff
Safon 60:Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 61:Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg).
Safon 61A:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a—

(a)

bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu

(b)

eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg.

Safon 62:Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 63:Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
Safon 64:Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny.
15Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau
Safon 65:Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 66:Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
16Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 67:Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 68:Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 68A:Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 69:Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 70:

Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 71:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.
17Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau
Safon 72:Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 73:Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 73A:Rhaid ichi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).
Safon 74:Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 75:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—

(a)

cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)

os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 76:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.
18Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 77:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 78:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
19Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 79:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
20Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 80:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 81:Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 82:Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan.
21Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff
Safon 83:Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

22Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

TABL 1

Rhes

Colofn 1

Prif safon

Colofn 2

Safon ddibynnol

(1)Ateb gohebiaeth
Safon 1Safon 7
(2)Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd
Safon 3Safon 6
(3)Gohebu â sawl person
Safon 4

Safon 6

Safon 7

(4)Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5

Safon 6

Safon 7

(5)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
Safon 7Safon 1
(6)Cael galwadau ffôn
Safon 9

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

(7)Cael galwadau ffôn
Safon 10 neu 11

Safon 9

Safon 14

(8)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg
Safon 14

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

a hefyd

Safon 16, a

Safon 17

(9)Cyfarfodydd ag un person
Safon 24

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 24A

Safon 24B

(10)Cyfarfodydd ag un person
Safon 24A neu 24BSafon 24
(11)Cyfarfodydd â mwy nag un person

Safon 25

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 25A

Safon 25B

Safon 25C

a hefyd un neu ragor o’r canlynol:

Safon 25CH

Safon 25D

(12)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 25A, 25B, 25C, 25CH neu 25DSafon 25
(13)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 26Safon 29
(14)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 29Safon 26
(15)Dogfennau
Safon 36, 37, 38, 39, 40, 41 neu 43

Safon 44

Safon 45

(16)Ffurflenni
Safon 46

Safon 46A

Safon 46B

(17)Gwefannau
Safon 48, 49 neu 50Safon 51
(18)Arwyddion
Safon 57 neu 58Safon 59
(19)Derbynfa
Safon 60

Safon 63

Safon 64

(20)Derbynfa
Safon 61Safon 61A
(21)Derbynfa
Safon 62Safon 63
(22)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa
Safon 63

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 60

Safon 62

(23)Grantiau
Safon 68

Safon 68A

Safon 71

(24)Grantiau
Safon 69 neu 70

Safon 68

Safon 68A

(25)Contractau
Safon 73

Safon 73A

Safon 76

(26)Contractau
Safon 74 neu 75

Safon 73

Safon 73A

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

23Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
24

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)

cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

25Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
26

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

27

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad;

(ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu

(d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1);

(b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

(ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

28

(1Os bodlonir yr amodau yn is-baragraffau (a) i (c) neu os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), nid yw’n ofynnol i berson neu gorff a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004(3) (“Deddf 2004”) gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) —

(a)Yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd.

(b)Yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y person neu’r corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng.

(c)Y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn daer.

(2Yr amod yw bod y person neu’r corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “argyfwng” yr un ystyr ag a roddir i “emergency” yn adran 1 o Ddeddf 2004 yn ddarostyngedig i baragraff (4).

(4Os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(b) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.

29At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
30Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso rhifau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
31

Nid yw safon 32 yn gymwys i—

(a)

perfformiadau o gerddoriaeth;

(b)

cynyrchiadau artistig neu ddramatig;

(c)

seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad;

(ch)

unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar.

32Nid yw safonau 32 a 83 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.
33

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau), 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol) a 72 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)

fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

34At ddibenion safonau 36, 37, 40, 43 a 46, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(4).
35

(1Nid yw safonau 46, 46A a 46B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3Y ffurflenni yw—

(a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 133A, 134 a 135 mewn perthynas â recriwtio);

(b)ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 67 i 71 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau);

(c)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 72 i 76 mewn perthynas â thendro am gontract).

36Nid yw safonau 36, 43, 44 a 45 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
37Nid yw safonau 36, 39, 40 a 43 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.
38Nid yw safon 41 yn gymwys i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff.
39

Nid yw safonau 48 i 52 (gwefannau) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).

40

(1At ddiben safon 53, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2Nid yw safon 53 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

41

At ddiben safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau) a safonau 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)

pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

42

(1Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 54 a 55 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2Nid yw safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 54 a 55 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

43

Nid yw safonau 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

44At ddiben safon 56 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
45

At ddibenion safonau 60 i 64 (derbyn ymwelwyr)—

(a)

ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau;

(b)

ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw;

(c)

mae “lleoliadau gwasanaeth” yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau celfyddydau, canolfannau cyngor a chanolfannau galw heibio.

46At ddibenion safonau 7, 65 a 66 ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
47

At ddibenion safon 72 (gwahoddiad i dendro)—

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(2Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)maint y deunydd;

(c)lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

48

(1At ddibenion safon 79, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 79 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

49

At ddibenion safonau 80, 81 a 82 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys—

(a)

gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad; neu

(b)

seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

50

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)

Deddf Seneddol; neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources